Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/88

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Prince of Wales yna sy wedi drysu y trens i gyd. 'Does yna ddim trefn arnyn nhw er pan aeth o i Aberystwyth." Tybed fod ei Uchelder Brenhinol yn ymwybodol o'r agwedd yma ar ei ddylanwad cyhoeddus?

Pan ddaeth y tren o gyfeiriad Porthmadog gwelem fod rhywbeth yn y gosodiad wedi'r cwbl. Disgynodd amryw wŷr pwysig ar y platform. Yn eu mysg yr oedd professors Bangor, yn nghyda theilwng faer, beth bynag am gorfforaeth, Caernarfon. Wedi i'r uchelwyr hyn fyn'd i'w ffordd, cawsom ninau fyn'd rhagom tua Phwllheli. Ysgafnwyd y llwyth yn y 'Berch drwy i Mr. Parry fyn'd i lawr, ac yna daethom yn chwap i ddinas Dafydd a Solomon. Yn y stesion yr oedd cynrychiolaeth dda o gerbydau Lleyn, a'r gyriedyddion yn llygadu am lwyth. Gwelais un o weinidogion Criccieth yn esgyn i gerbyd taclus oedd yn galw yn ngorsafoedd Morfa Nefyn, Edeyrn, &c., a chan fod y gŵr yn awdurdod ar lawer o bethau, dilynais ei esiampl. Dywedid fod y cerbyd hwn ar y "lôn bost" yn cyfateb i'r hyn ydyw yr Irish Mail ar y rheilffordd. Sylwais fod y perchenog yn byw mewn lle ac iddo enw arwyddocaol,—"Tir Gwenith." Pa ryfedd fod ei feirch mor sionc? Aethom drwy heolydd y dref gyda rhwysg, ac yna i ganol y wlad. Erbyn hyn yr oedd gwres yr haul wedi lliniaru, a'r awel yn llwythog o beraroglau y weirglodd. Daethom yn ebrwydd i'r Efail Newydd, a gwelais yno un peth newydd,—nid amgen oedd hyny nac "eglwys," heb fynwent na chlochdy yn perthyn iddi o gwbl. Nid ydyw ond ty anedd hollol gyffredin. Y mae y cyferbyniad rhwng eglwys a chapel yn y pentref bychan hwn yn ffafr yr olaf ar hyn o bryd, ond nid doeth ydyw diystyru dydd. y pethau bychain. Yn fuan ar ol gadael yr Efail, daethom i goedwig ardderchog Bodûan. Y mae y brifffordd yn dirwyn drwy avenue o goed,—un o'r llanerchau mwyaf cysgodol a phrydferth yn yr holl