Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/89

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wlad. Cawsom gipolwg ar y palasdy rhwng cangau deiliog, ac yn nes atom yr oedd yr adeilad harddwych a adwaenir wrth yr enw eglwys Bodûan. Carasem glywed y clychau melus yn adsain drwy y goedwig. Y mae gwrando arnynt, mewn llanerch fel hyn, yn myn'd a dyn o ran ei feddwl i gyfnod rhamantus y mynachlogydd yn Nghymru.

Ar ben yr allt y mae ty a gardd wedi eu hurdd—wisgo â blodau mwyaf hudolus; ac, heb fod yn nepell o'r fan, gwelais un o'm cyd-ysgolorion yn y dyddiau a fu, Robert Davies y Ddwyryd, ger Corwen,—yr hwn sydd yn llanw y swydd o bailif yn Bodûan.

Y mae R. D. yn fardd gwych, ond ofnaf fod ei delyn ar yr helyg. Paham? Parodd yr olwg arno, a'r ychydig eiriau a basiodd rhyngom i mi syrthio,—nid oddiar y cerbyd, ond i fath o ddydd—freuddwyd am adeg ddedwydd ar lanau y Ddyfrdwy. Ni ddeffroais yn iawn nes i'r gyriedydd alw fy sylw at aneddle lonydd oedd i fod yn llety i mi y noswaith hono. Ffarweliais â'm cyd—deithwyr diddan, a diflanodd y cerbyd yn y pellder, mewn gwir ddiogel obaith na ddaw relwê i Borthdinllaen tra byddo buan—feirch y "Tir Gwenith " yn carlamu dros y fro.

II.

Ael-y-bryn—dyna le braf,—yno
Daw'r gwanwyn gynaraf;
A dyna'r fan daw huan haf
Eilwaith, a'i wên olaf,

WEDI mwynhau gwydriad o'r llefrith puraf, ac ateb yr holiadau arferol, aethum i'r ardd, ac yno, yn nghanol dail a blodau y mwynheais rai o'r oriau hapusaf,—oriau euraidd, mewn gwirionedd. O un cyfeiriad, yr oedd mynyddoedd yr Eifl, yn glir a thawel, ac ambell gwmwl gwyn yn gorphwyso enyd ar eu hysgwyddau, tra yn croesi drostynt. I'r gorllewin, yr oedd y môr murmurol, a phelydrau yr haul yn dawnsio ar ei donau. Mewn