Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/90

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

perth gauadfrig yn ymyl, yr oedd aderyn pereiddfwyn, yn canu ei emyn hwyrol; ac O! y gyfaredd oedd yn ei gerdd. Yr oedd yn gwefreiddio fy nghalon, ac yn creu rhyw dangnefedd heddychol yr un pryd. Nos Sadwrn aderyn: mor ddymunol ydyw? Sut na fedrai dyn etifeddu yr unrhyw dangnef? Ni ddymunwn ddim amgen ar nos Sadwrn na'r olygfa hon,—gardd, aderyn, awel fwyn, hirddydd haf. Dyna'r pethau sydd yn troi y byd yn Baradwys, a phe buasai dyn wedi cadw yn nes at y math yma o bleserau, ni fuasai Paradise Lost yn ei hanes. Ond yn yr oriau dedwydd hyny, rhwng y mynydd a'r môr, teimlais mai nid breuddwyd bardd yn unig ydoedd "Adfeddianiad Gwynfa." Teimlais fod twymyn anesmwyth Bywyd yn cael ei leddfu am enyd; teimlais rin y goleuni hwnw na thywynodd ei hafal ar fôr na thir. "Dy lygaid a welant y tir pell "—tir y pellder. Gwelais balasdai swyn—hudol yn mro machlud haul; gwelais gymylau y gorwel yn cyfnewid o ogoniant. i ogoniant dan hudlath y Swynwr. Yna daeth y nos mor dawel, a'i mantell wedi ei hymylu ag aur coeth, fel mai o'r braidd y gellid dweyd mai nos ydoedd. Ac hyd yn oed wedi iddi ymledu dros fynydd a gwaen, yr oedd pelydrau porfforaidd yn aros yn y gorllewin, fel llysgenhadon gorsedd brenin y dydd.

Ond rhaid gado y cyfan, a thalu gwarogaeth i ddeddf fawr natur. Y mae dydd arall yn dynesu, yn nghyda'i bryder—ond ni chaiff yr ysbryd aflonydd hwnw ddod i mewn cyn ei amser. A phan y daw fel gŵr arfog, y mae genyf ystafell fechan i droi iddi,—ei henw ydyw Adgof. Yno yr af. gan gloi y drws yn ddistaw, ac eisteddaf enyd o flaen darlun aniflanol a wnaed gan artist perffaith yn ngoleuni yr hwyrddydd. Gardd, aderyn, hedd y mynyddau, murmur yr eigion, lliwiau digymar machlud haul—dyna rai o'r studies sydd yn y darlun. Os dymunai y darllenydd feddianu ei debyg, credaf y gellir ei gael, dros ychydig amser eto, ar yr un telerau—rhwng y mynydd a'r môr.