Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/92

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

BEDD Y BARDD.

Bro deg o burdeb ar daen,
Bro ddedwydd—beirdd a'i hadwaen.
—ISLWYN.

I.

AR foreu tyner, ond cawodog, yn Medi, aethum ar bererindod i Lanrhyddlad yn Mon, i ymweled â man beddrod Nicander. Cychwynais o Glwchdernog, cartref yr hynod William Pritchard, Ymneillduwr cyntaf Mon, gŵr a yrwyd gan erlidiau o'i breswylfod yn y Lasfryn Fawr, yn Eifionydd, ac a ymlidiwyd o le i le yn Ynys Mon, nes o'r diwedd y cafodd ffafr yn ngolwg ysgweiar y Brynddu, a llonyddwch i dreulio hwyrddydd ei oes, ac i wasanaethu yr efengyl, yn y Clwchdernog. Y mae yn demtasiwn i aros gyda hanes yr amaethdy adnabyddus hwnw, ac yn enwedig y Clwch Hen, lle y bu John Wesley, ac amryw o'r Tadau Methodistaidd yn pregethu efengyl y deyrnas. Nid oes yno ond carnedd yn aros erbyn heddyw, ond y mae yr adfeilion yn gysegredig, a'r ddaear yn sanctaidd.

Ond ar y boreu a nodwyd troais fy nghamrau tua. Llanrhyddlad. Nid oes dim yn hynod yn yr olygfa am encyd o ffordd, ond wedi dringo y gelltydd yn nghyfeiriad mynydd y Garn, y mae y dyddordeb yn cynyddu bob cam. Gorwedda pentref gwledig Llanddeusant ar y gwaelodion o'r tu cefn; ar yr aswy y mae Llanfaethlu, gyda'i adgofion am Ioan Maethlu a Glasynys. Saif pentref Llanrhyddlad mewn lle amlwg ar ysgwydd y bryn, ac y mae yr olygfa o ymyl yr ysgoldy, ar y groesffordd gerllaw, yn wir ardderchog. Ar ddiwrnod clir, digymylau, gellir canfod mynyddau Arfon, o'r Penmaenmawr i gopa yr Eifl, a gellir gweled rhandir Lleyn, ac