Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/94

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

feydd i dori ar heddwch y fro. Ac yma, yn ymyl y glasfor byth-newidiol, a chan ddilyn ymdaith y llongau, mawr a bychain, yn colli o'r golwg y tu hwnt i fau Caergybi, cefais fy hun yn synfyfyrio am yrfa daearol y bardd a brofodd y llanerch hon yn "borthladd tawel, clyd, o swn y storm a'i chlyw." Ehedodd fy myfyr—dodau i Eifionydd,—

"Brodir iach, lle bu hir drig
Ein hen dadau nodedig;
Dillynaf gwmwd llonydd,
Fu'n Athen yr awen rydd.

I'm gŵydd deuai afonydd gloewon ac encilion prydferth y wlad sydd wedi ei chysegru gan adgofion am feirdd gorchestol y dyddiau a fu. Dyna Dewi Wyn,—

"A'i ddawn ddihysbydd, enwyllt,
Hydrawg oedd fel rhaiadr gwyllt,
Neu daran ffroch, a'i chroch ru
Yn enfawr ymgynhyrfu."

Athrylith ffrwydrol, ryfedd, ac ofnadwy; nid oedd rheolau a mesurau, sydd yn gymaint blinder i gyfansoddwyr cyffredin, ond pethau hawdd plentynaidd o hawdd—i awen Dewi Wyn. Gwnai efe dawdd—lestr o'r gynghanedd gaethaf, a thywalltai iddi feddylddrych anfarwol. Yr oedd ei allu mor aruthrol fel y rhodiai'n rhydd yn llyffetheiriau pobl eraill. Nid honiad ffol oedd ei ddywediad na welodd efe odid linell gynghaneddol nas gallai ei gwella a'i chryfhau. Ond heblaw nerth yr oedd yn perthyn i awen Y Gwyn dynerwch a theimlad dwfn. Nid oes angen profi hyn i unrhyw berchen calon sydd wedi ymgydnabyddu âg Awdl Elusengarwch. Pwy a roddodd y fath fynegiad i adfyd a chyni y llafurwr tlawd?—

"Dwyn ei geiniog dan gwynaw,
Rhoi angen un rhwng y naw!"