Pwy, mewn oes wasaidd, fammon—addolgar a ddygodd ein cenedl i synied mai
"Brodyr o'r un bru ydym
Un cnawd ac anadl, ac un Duw genym,"
Gresyn o'r mwyaf ydoedd i athrylith Dewi gael ei thywyllu yn nghanolddydd ei grym. Ond er hyn oll, gadawodd argraff anileadwy ar lenyddiaeth Cymru,—
"Oeswr a phen seraff oedd,—pencampwr,
Ac ymherawdwr beirdd Cymru ydoedd."
Yn ei ymyl yr oedd Robert ap Gwilym—Y Bardd Du. Amaethwr oedd yntau, a'i breswyl am flynyddau lawer yn y Bettws Fawr. Gwahanol iawn oedd teithi awen y Gwyn a'r Du Yr oedd bardd y Gaerwen fel y rhaiadr mawreddog,—
Uchelgadr raiadr, dŵr ewyn
Yn synu, pensyfrdanu dyn."
Ond am fardd y Bettws,—
"Ei ddawn ydoedd ddeniadol
Fel afon dirion, mewn dôl,
Yn eirian lithro'n araf,
O dan heirdd gysgodion haf;
Dolenai, a delw anian,
Yn glŵs, ar ei gwyneb glân."
Cyfansoddodd y Bardd Du lawer o farddoniaeth nad a byth i dir angof. Gellir dweyd am dani, yn ngeiriau Ioan Madog,—
"A deil hon tra byddo'n bod,
Iaith Eifion ar ei thafod."
Cafodd Robert ap Gwilym oes faith, a bu yn gyfaill a noddwr i lu mawr o feirdd a llenorion. Yr oedd y Bettws Fawr yn goleg da i gyfansoddwyr ieuainc. Ar