nawngwaith o haf, neu yn min nos gauaf, gellid gwel'd llawer pererin llengar yn ymlwybro tua'r amaethdy hynafol. Ymddengys fod y Bardd Du yn agored i un gwendid "ddibechod,"—yr oedd yn lled hoff o ganmoliaeth. Gwnaeth rhai pobl gyfrwys, gnafaidd, ddefnydd anheilwng o'r gwendid hwn, mewn trefn i gael mwynhau moethau materol y Bettws, ond yr oedd ei wir ddisgyblion yn myn'd yno gydag amcan llawer purach. Wrth feddwl am yr ymweliadau dyddorol hyn y mae dynsawd ambell ddisgybl yn ymrithio ger fy mron.
Dacw ŵr ieuanc bochgoch, heinyf, llygadlon, llawn asbri a gwladgarwch, yn cyrchu at y ty. Craffwn arno; daw yn adnabyddus ar lwyfan yr Eisteddfod, daw yn ŵr eglwysig, yn fardd a llenor mirain. Dyna Morus——
Ond yr wyf wedi rhagflaenu yr amseroedd a'r prydiau yn hanes y bardd. Un o wir blant Eifionydd ydoedd Nicander, neu, a defnyddio ei enw bedydd—Morus William. Ganwyd ef ddechreu y ganrif hon, mewn bwthyn o'r enw y Coety, ar dir y Gaerwen—etifeddiaeth Dewi Wyn. Gallesid disgwyl iddo ddod yn brydydd. Gofynwyd i ryw ddyn a ydoedd yn medru German? Atebodd y dylasai wybod rhywbeth am y pwnc,—fod ganddo gefnder oedd yn arfer chwareu y German flute. Wel, yr oedd mam Nicander wedi bod yn forwyn gyda'r Bardd Du, a'i dad yn was gyda'r Bardd Gwyn, ac oni ddylasai y plentyn fod yn brydydd? Adwaenid ef gan gyfoedion ei febyd fel "Morus bach y Coety." Cafodd ychydig ysgol ddyddiol o'r fath ag ydoedd mewn gwlad yn y dyddiau hyny. Caled oedd ei fyd. Elai i'r ysgol yn y boreu gyda ychydig fara sych, a phiser gwag. Efe oedd i lanw y piser trwy gardota llaeth ar ei ffordd at ei wersi. Dyna lwybr athrylith ar hyd yr oesau, llwybr garw, cul, noethlwm, ond "ffordd unionaf er mor arw, i ddinas gyfaneddol yw." Profodd y llaeth enwyn a'r bara sych yn dra chydnaws â chylla Morus y Coety. Daeth yn fachgen byr-gorff,