Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/97

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cydnerth; ac ni chiliodd y gwrid oddiar ei foch hyd ei fedd. Pan yn lled ieuanc, cafodd ei brentisio yn llifiwr yn ardal ei febyd. Ymddengys iddo ragori yn y grefft, os gwir ydyw yr englyn a wnaed am dano yn y cyfnod hwn,—

"Ni chafwyd bachgen amgenach—na llaw,
I drin llif yn hoewach;
Nid oes un llifiwr siwrach,
Yn y byd, na Morus bach."

Ond nid yn y pwll llif yr ydoedd i dreulio ei fywyd. Aeth am dymor i'r ysgol i Gaer. Wedi bod yno am tua dwy flynedd, cafodd fynediad i Goleg yr Iesu, Rhydychen. Yr oedd Ab Ithel yno yr un adeg. Ar ol gorphen ei efrydiaeth, penodwyd ef i guradiaeth Treffynon, fel olynydd i'r mwynber Alun. Oddiyno, efe a symudodd i Bentir, Arfon.

Erbyn hyn yr ydoedd yn prysur wneyd ei farc fel bardd. Pan yn Mhentir yr anrhegwyd ef â'r englyn canlynol gan Dewi Wyn,—

"Morus sy'n Forus anfarwol,—Morus
Sy'n un mawr ryfeddol;
Ni fu ei enw ef yn ol,
Ond Morus anghydmarol."

Aeth o Bentir i Lanllechid, ac oddiyno i Amlwch, lle y bu yn gurad am bedair blynedd ar ddeg. Yn y blynyddau hyn yr ydoedd yn ymddyrchafu fel bardd ac awdwr, ond yn araf iawn y cafodd ei gydnabod drwy ddyrchafiad eglwysig. Daeth hyny o'r diwedd. Cafodd ei benodi i fywoliaeth Llanrhyddlad, lle y bu am y pymtheng mlynedd olaf o'i oes.

Daeth yn adnabyddus wrth yr enw "Nicander" yn y flwyddyn 1849, ynglŷn âg Eisteddfod fyth-gofiadwy y 'Berffro, pan y cafodd ei awdl i'r "Greadigaeth" ei dyfarnu yn oreu. Bu yn dra llwyddiannus fel ymgeisydd Eisteddfodol. Efe a enillodd y gamp ar y