Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/98

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bryddest i "Brennus" yn Llangollen; "Yr Eneiniog" yn Ninbych; a "Moses" yn Nghaernarfon. Cyfansoddodd lyfr gwerthfawr ar "Y Dwyfol Oraclau; "Y Flwyddyn Eglwysig; "<ref>Ymddanghosodd adolygiad pur lym ar "Y Flwyddyn Eglwysig " yn y Traethodydd am 1846. Dywed yr adolygydd:—"Tuagat yr awdwr ei hun nid oes genym ond teimladau o garedigrwydd ac ewyllys da, eto yn gymysgedig â thosturi wrth weled un o'i dalentau ef, oddiwrth yr hwn y disgwyliem bethau gwell, wedi ei lithio mor bell gan y surdoes Puseyaidd." Ac ymhellach,—"Yn mlith meib yr awen, ystyrir yr awdwr yn fardd o gryn enwogrwydd, ac yn deilwng o efelychiad." Ond y mae yn condemnio ei emynau'n ddiarbed, ac yn enwedig ei emyn dan y penawd," Boreu Sul."—

"Rhedodd fy wythnos bron i gyd
Yn ngwaith y byd a'i gynwr';
Breuddwydiais, hefyd, drwy y nos,
Am waith yr wythnos, neithiwr.

"Ond heddyw torodd gwawr y Sul,
Trwy ffenestr gul f'ystafell;
O nef fy Nuw y daeth yn rhodd,
A'm bwth a drodd yn gangell."

Am y llinell sydd yn darlunio y "ffenestr gul," dywed yr adolygydd,—"Os yw tywyllwch sydd i'w ganfod yn amryw ranau o'r llyfr yn brawf digonol, gellid meddwl fod ffenestr ystafell ein bardd yn gul iawn, rywbeth yn debyg i ffenestri hen dai gynt, pan oedd heidiau o williaid yn llenwi y wlad, neu rwyll yn ystlys cell meudwy, ac nad oes ond ychydig iawn o oleuni yn dyfod ato. Er hyny, mae yn canu yn dra darluniadol." Ond ni ddigiodd wrth ei feirniaid, nac wrth y Traethodydd ychwaith. Yn y cyhoeddiad clodfawr hwnw yr ymddangosodd ei gyfaddasiad barddonol penigamp o ddamhegion Esop.<ref> ysgrifenodd gannoedd o erthyglau ac englynion i Gronicl Cymru; troes ddamhegion Esop ar gan; ac y mae ei ohebiaethau at Eben Fardd, ac eraill, yn mysg y pethau mwyaf doniol yn yr iaith.

Nid oedd yn bregethwr mawr, nac yn ym—adroddwr hyawdl, ond yr oedd, yn ei ddydd, yn un o ysgrifenwyr goreu y Gymraeg. Da fyddai genym