Owain Aran
Gan
Edward Williams (Llew Meirion)
Erthygl o Cymru Gol O.M.Edwards
Cyf 37, 1909
Owain Aran.
I. ATHRYLITH BORE OES.
YN hen fynwent Eglws St Mair, Dolgellau, ar yr ochr orllewinol, y mae carreg arw ac arni wedi eu torri, nid yn hollol "âg anghelfydd law," y tri gair,-
BEDD
OWAIN ARAN
heb na dyddiad genedigaeth na marwolaeth, heb air i ddweyd mab i bwy ydoedd, na pha alwedigaeth a ddilynai tra yn nyddiau ei gnawd. Nid oes na phennill nac adnod arni i ddangos pa un ai ieuanc ai hen ydoedd, nac unrhyw fynegiad arall ond i Gymro ag sydd erbyn hyn wedi hen arfer cysylltu ffug-enw â phriodoledd bardd neu gerddor. Ac ni buasai gennym y wybodaeth hon am ei orweddle, y mae lle i ofni, oni bai i ryw ddieithrddyn ddyfod ar ei rawd i'r gymydogaeth a holi am "fan fechan bedd un yr ystyriai efe ei bod yn ddyled arno, ac yn fraint iddo, dalu gwarogaeth i'w orffwysfa olaf fel un o feib athrylith Gwalia wen. Nis gwyddom a ydoedd Owain wedi rhoddi "gorchymyn am ei esgyrn"
"I'w dodi i orffwys, heb gwynfan na galar,
Na chodi'r un gofnod i ddangos y fan."
Ond fodd bynnag, hyn sydd ryfedd, fod torri ar gerrig beddau yn rhan o grefft ei dad, ac yntau ei hun wedi bod wrth y gwaith hwnnw, fel y cawn sylwi ymhellach ymlaen. Yn awr adroddaf yr hanes pa fodd y torwyd y geiriau a nodais ar yr hen garreg arw sydd ar ei gorwedd. Daeth dieithrddyn yn araf gerdded rhwng colofnau dinas y meirw Llanfair Bryn Meurig, a gwelai yr hen wraig a ofalai am yr Eglwys, sef Lowri Humphreys, yn dod o'r deml, a gofynnodd iddi a wyddai hi a oedd un o'r enw Owain Aran wedi ei gladdu yn rhywle yn y fynwent honno ers rhyw hyn a hyn o flynyddoedd.
Hithau a'i harweiniodd at hen feddrod un o hynaf iaid Owain, gan ddweyd mai yno y claddwyd ef, ac na chladdwyd neb yn y bedd- rod hwnnw ers rhai ugeiniau o flynydd-