Tudalen:Owain Aran (erthyglau Cymru 1909).djvu/10

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ion, am fod gwall cynghanedd yn ei englyn. Bore drannoeth, yr oeddynt yn cyfarfod â'u gilydd, a rhag i'r disgybl dorri ei galon cyfarch— odd yr athraw ef fel hyn,—

'Go rywiog yw yr awen—gan William,
Gwn olwg ei dalcen,
Ei lewyrch wyneb lawen,
Un llun a bardd yn ei ben.'

Bu y cyfarchiad yna yn foddion i'r disgybl hwnnw wneyd mwy o ymdrech nag erioed i ennill cymeradwyaeth ei feistr, drwy wneyd gwell gwaith. Ac fel yna yr ymddygai bob amser at ei ddisgyblion; os byddai raid archolli wrth geryddu, gofalai am fod y feddyginiaeth wrth law, felly nid oedd y perygl lleiaf i'r un o honynt dorri ei galon. Byddai ei holl gyfarwyddiadau yn eglur, a'i ddull o ddweyd yn hyderus a chalonogol."

Deallai i'r dim pa fodd i argraffu ar feddyliau ei ddisgyblion amcan ac ystyr hyd yn oed atalnodau yn eu perthynas a chywirdeb llenyddol. Cymerai fwrdd du, a thynnai ar hwnnw ffurfiau y gwahanol arwyddion, megis rhyfeddnod, holnod, neu ofynnod, sillgoll, &c., ac yna y mae yn eu hesbonio o un i un fel hyn. Tynnai lun neu ysgrifennai arwydd holnod neu gwestiwn. Yna esboniai ef mewn englyn,―

(?) Wele fanwl ofyneb,——hwn gofir
A ofyn am ateb;
Oes un mor ddall, anghall, heb
Dda weld fy nefnyddioldeb?

Yn nesaf Rhyfeddnod,—

(!) Rhyfeddnod yn bod, os bydd,—felly a
Fo, llais y darllenydd;
Trwy'n byd traws, ei achaws sydd
I'w gael o ben bwy gilydd!

Y Sillgoll (Apostrophe),—

(') Syller, y sillgoll sy i hollol—fod
I feirdd yn oddefol;
Tra hoff yw, er rhwystro'r ffol,
Anrhywiog dorri'r rheol.

Y Gwallnod,—

(^) Gwallnod roi'r yn benodol is geiriau,
Neu os gair diffygiol;
Yn y llinell ganlynol
Gwel y ceirair rhyw ^air ar ol.

Y Sernodau,―

(***) Sernodau'n ddiau gwnawn ddeawl—yn lle
Hen hyll air anfoesawl,
Bob amser sydd arferawl
Gan dduon gym'dogion ***.

Yna daw at y full stop,—

(.) Gweler yn awr, 'rwy'n galw, —yn ddi—ddadl
Ddiweddeb i sylw;
Ac yn union cân hwnnw
Da iawn ŷnt oll—dyna nhw.'

Tebyg na fu neb ag yr oedd ei gwmni yn hyfrytach i'w gyfeillion nag oedd cwmni Owain Aran i rai o gyffelyb anian— awd. Medd Graienyn,—

"Yr oedd ganddo allu eithriadol i ddifyru cwmni; a hynny efallai yn bennaf am ei fod yn englynwr mor barod a phert—yr oedd y cynghaneddion megis ar flaenau ei fysedd, a chyfansoddai faint a fynnai o englynion yn ddifyfyr, a byddai rhyw darawiad doniol, neu gynghanedd gywrain, neu wers bwrpasol ymhob un o honynt. Un min—nos yn yr haf yr oedd ef a dau gyfaill yn myned heibio ffermdy Dolgamedd. Aeth un o'r cyfeillion i'r ty ar neges, ac arosodd yntau a'r cyfaill arall yn y ffordd hyd nes y daeth allan. Wrth ei weled yn hir yn dyfod gwnaeth Aran yr englyn hwn,

"Y gwr, O, gwna drugaredd,―ti elli,
Tywyllwch sy'n cyrraedd;
Tro gwarthus, wallus ddi—wêdd
Dal gymaint yn Dolgamedd."

"Dro arall yr oedd ef a Mr. Robert Pughe a minnau (Graienyn) yn cael ein pwyso mewn clorian. Yr oeddwn i yn drymach o gryn lawer na'r un o'r ddau arall, ac yr oedd Robert Pughe ddeunaw pwys yn drymach nag Owain Aran, yr hwn a wnaeth yr englyn canlynol mewn munud,―

Rhyw ewin o ddyn, Owain yw,―ysgafn,
Aeth yng ngwysg ei gydryw;
Erthyl od wrth Wil ydyw,
A deunaw pwys o dan Puw.'

"Dro arall yr oedd ar ymweliad ag un o'r ffermdai yn yr ardal, a daeth un o'r merched, gan yr hon yr oedd ŵy iâr yn ei llaw i'r ty, a dywedodd, Mi roi i yr ŵy yma yn wobr i chi —os gwnewch englyn iddo fo.' Very well,' meddai yntau, ac wedi edrych o'i gwmpas am hanner munud, dywedodd,—

"E gâr rhai gael jwg i'w rhan—a phibell
A phob sothach aflan;
Ond prydydd o awenydd wan,
A gâr ŵy iâr, yw Aran.'

Fel yna, pa le bynnag yr ai, yr oedd y parodrwydd hwnnw a'i nodweddai yn ei wneyd yn ffafrddyn gan ei holl gydnabod. Yr oedd ei lafur tra yn Rhyd y Main i addysgu y werin a'i phlant, y pum mlynedd y bu yno, bron yn anhygoel. Cyfododd ddosbarth arall i addysgu egwyddorion cerddoriaeth, a meistrolodd llu o'i ddisgyblion y gangen honno i'r fath raddau nes aeth eu clod hwy a'u hathraw led led