Tudalen:Owain Aran (erthyglau Cymru 1909).djvu/7

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

II. Y BARDD PAROD.

BETH feddylier o'r englynion canlynol, pan nad oedd ond bachgen, nid yn unig oherwydd eu cynghaneddion cryfion, ond o ran purdeb iaith ac arddull lenyddol? "Erfyniad am heddwch" yw y testyn, yr adeg yr oedd cyfandir Ewrop yn llawn berw, a'r Hungariaid yn cael eu gorthrymu gan yr anghenfil Haynau hwnnw, pryd yr ymddangosodd Louis Kossuth fel amddiffynnydd y genedl orthrymedig honno. Gwrandewch,―

"Heddwch, tawelwch diwad—o filain
Ryfeloedd certh, anfad;
Iddynt y bo diweddiad,
Er byw'n llon, freinlon heb frad."

"Gresyn, yn Ffrainc a Rwsia—ymhyrddiant
Am orddwys ryfela;
O mor llon, dirion, a da
Bo heddwch i feib Adda."

"A'r Awstriaid sydd fel yr estrys,——llawn mall
Yn amhwyllig echrys,—
Dreigiau hyllion drwg 'wyllys,
Rhuthrant, brwydrant mewn brys.

"Trwyadl bu'r Hungariaid, truain,——cufwyn,
Ac hefyd gwyr Rhufain;
Mae achos rhoi trom ochain
Hyd fedd, yn rhyfedd i'r rhain."

"Eang adfydus anghydfodau—'n wir
Sydd mewn eraill fannau,
Ac aml eiddig ymladdau
Terwynion, gwylltion yn gwau."

"Bydded fflwch Heddwch o hyd,—tra eirian
Trwy Ewrob heb adfyd;
Hafal cyrhaeddo hefyd
Yn glau, trwy barthau y byd."

"Edrycher am fawr ymdrechion—buddiawl
Na byddo lladd dynion;
Ie, llwydd gynyddo llon
Fyd hylwydd, heb fatelion."


"Gadawn y gwg, dyna gân
Anhyrwydd Owain Aran."

Yr oedd gan Owain galon fawr, ac y mae lle i dybied ei fod wedi bod unwaith, o'r hyn lleiaf, yn dioddef yn drwm o dan glefyd yr organ honno, nid oherwydd unrhyw afiechyd anianyddol arni, megis fatty degeneration, fel y bydd y meddygon yma yn ysgrifennu ar dystysgrif marwolaeth ambell un; ond clefyd arall ag sydd yn effeithio ar bawb o honom, fwy neu lai, ar adegau, ond fel y mae goreu y lwc nid yw yn "glefyd i farwolaeth." Serch, neu gariad at wrthddrych ydyw hwnnw, a'r gwrthddrych a effeithiodd ar Owain yn y cysylltiad hwn oedd merch ieuanc o'r enw Gwen, a chyfansoddodd dri englyn yn llawn o deimlad byw, ac yn dangos yn eglur ei fod yn meddu ar y gwendid neu y nerth hwnnw sydd yn rhoddi pawb allan o'r cyfrif am ragoroldeb ond rhyw un, ac i Owain Gwen oedd honno. Dyma fel y canodd,—

"Adwaenaf ar hyd Wynedd—enethod
Glân eithaf eu buchedd,
Rai tirion, gwychion eu gwedd,―
Yn goronog o rinwedd.

Ond, os i ferch y dewisaf fi—ganu,
Cofio Gwen raid i mi;
Ni anwyd merch fwy heini,
Nac ail Gwen i'm golwg i.

"Gwen fêl eiriau, Gwen fal arian—ei lliw,
Gwen â llais fel organ;
Gwen wen, dlos, Gwen hynod lân,
A Gwen oreu gan Aran."

Gallai hefyd gydymdeimlo â rhai mewn profedigaeth; a theimlir mewn ambell englyn, ffrwd fywiol o'r rhinwedd uchel-dras hwnnw yn rhedeg tuag at y rhai a brofid felly. Dyma i chwi engraifft o hynny mewn englyn a gyfansoddodd ar ol Harriet, merch i Mr. a Mrs. Robert Jones y Tanner, a chwaer fach i'r diweddar, erbyn hyn, Mrs. Chidlaw Roberts,—

"O'i hol, ei rhiant haelion—na weler
Yn wylo deigr heilltion;
Diau Harriet, em dirion—yn iach fry
Sy'n lleisio'n felus yn llys nefolion."

Y mae hwnyna yn deilwng o unrhyw fardd englynol a adnabu Cymru erioed. Wele un arall ar farwolaeth merch ieuanc dduwiol iawn o'r enw Sarah Jones,—

'Ha! er daearu y dirion—Sara,
Seren y gwyryfon;
Yng ngoleu wlad angylion
Onid hardd yw enaid hon?"

Cyfansoddodd Owain feddargraff, pa un ai i'w roddi ar ei fedd ei hun, ynte ar ol rhywun arall nis gwn, ond y mae yn ddigon agored i fod ar fedd unrhyw un, boed dduwiol neu anuwiol, tlawd neu gyfoethog, a dyma fo,—