ac Ann Lewis, i fyw i Rhos-y-gwaliau ger y Bala. O ganol murmur afon 'Cymerig,' y cerddai bob bore i Ysgol Ramadegol y Bala. Yn yr ysgol hon bu yn cyd-ddysgu a'r diweddar Thomas Ellis, Cynlas, cyn aelod seneddol Meirion, O. M. Edwards, Rhydychain, a'i frawd E. Edwards, Aberystwyth. Nid pob bardd Cymraeg gafodd gystal addysg a 'Glan Cymerig.' Ceisia ef ddweyd iddo adael ei holl Ladin ar ol yn yr ysgol. A chaniatau hyny, na chwyned ddim; dyna'r golled leiaf yn y farchnad. Tua'g ugain mlynedd yn ol priododd, a byth er hyny yn Nhref y Bala y trig, mor ddibryder a dedwydd ag ungwr yn y dref. Mae yn fardd cadeiriol; a medd amryw dlysau arian ac aur. Ei hoffion yw cân, cwn, cathod, blodau a pharabl adar. Dyna sydd yn cyfrif am ei ddawn i ganu i blant. Mae yn Eglwyswr pypyr. Bob amser wrth ei fodd yn gweithio er hyrwyddo llwyddant yr Eglwys. Y sel a'r gweithgarwch hwn barodd. i'w gyd-Eglwyswyr ei ddewis yn Warden er's rhai blynyddau. Lleygwyr o'i fath ef yw angen mawr yr Eglwys ym mhobman,
Nid diogwyr yn digio,
Gweithwyr tawel fel y fo.
Mae hefyd yn gredwr yng ngallu a dylanwad y Wasg. Yng ngrym y gredo hono yr ysgrifena i'r HAUL, Y LLAN, Y PERL, a'r CYFAILL EGLWYSIG. Gwyn fyd na cheid rhagor o leygwyr ac offeiriaid i wneyd yr un peth. Heblaw bod yn Eglwyswr a bardd; mae hefyd yn nofelydd gwych. Efe ysgrifenodd 'Aeres yr Hendre Du' i'r Cymru; a 'Gwylliaid Cochion Mawddwy'i gyhoeddiad arall. Hwyrach ŵyr dyn, mai y peth nesaf fydd nofelig ddifyr a sionc i BERL Y PLANT. Bu am flynyddau yn aelod o'r "Cynghor Dinesig," ac efe yw ysgrifenydd Cymdeithas Geidwadol' y rhan hon o'r Sir. Flynyddau yn ol, cyhoeddodd lyfr swllt o'i ganeuon. Eiddunaf iddo fywyd, iechyd, a hamdden i wasanaethu ei Eglwys a'i genedl am lawer o flynyddoedd.
Yn wyn ei fyd, a glân ei foes,—pur hir
Parhaed fel mae eisoes.
A dianair dreulied einioes,
Yn ŵr da iawn ar hyd ei oes.
Abergynolwyn.GWILYM BERW.