Tudalen:Patrymau Gwlad.djvu/12

Gwirwyd y dudalen hon

Y BACH O AUR

 BACH O aur i'w enwair aeth rhyw ŵr
Mewn gobaith dalfa fawr i lan y dŵr;
Ond, fe ddychwelodd o'i anturiaeth ffôl
A basged wag, a'i fach o aur ar ôl.

MAC A MOSES

Bu Mac a Moses am ryw hyd
Yn ceisio cadw siop ynghyd;
Wrth gyson wylio'r naill y llall
Tynged y ddau fu mynd yn ddall.


Y PENLLÂD

CAS genny' gnaf sy'n clebran
Am garu'r byd yn gyfan;
Onid penllâd y cread crwn
I hwn yw-ef ei hunan?


AR YNYS IÂ

(I Wleidyddwr)

Er ffrindiau sy'n ei adael o
Gan hedeg ymaith mewn ynfydrwydd
I'r Chwith neu'r Dde, fel adar to,
A'u hwyneb adref o'r enbydrwydd;

Saif wrtho'i hun ar ynys iâ
A'r poethder yn ei chyflym doddi;
Ydy' o ar ddiflannu? Na,
Rhy heini fydd er hyn i'w foddi.