Gwirwyd y dudalen hon
O DAN YR ALLT
MAE heol blwyf yng nghalon gwlad
Yn dirwyn dan yr allt yng nghudd,
Tramwyfa tylwyth 'Mam a 'Nhad
Ers llawer dydd;
Lle cerddwn innau o dan y coed
Ddwy filltir flin i'r ysgol draw,
A dychwel adre'n sionc fy nhroed
Drwy'r gwynt a'r glaw.
Ar ôl galanas gaeaf maith
Ar urddas dâr a rhwysg yr onn,
Hir oeda'r gwanwyn ar ei daith
I'r ardal hon.
A'm llwyd gynefin yn tristáu
Mewn tlodi wedi disgwyl cyd,
Daw'r gwanwyn megis teyrn gan hau
Ei gyfoeth drud.
A'r huan brwd ar waun a bron
Nid oes wynwydden yn yr allt,
Na bedwen deg yr adeg hon
Heb ledu ei gwallt.
Weithion 'does heulog lain heb lu
O 'sanau'r gog a'u saffir swyn,
Na llecyn heb aderyn du
Eurllais ar lwyn.