Y BARDD
Ni threcha llymder na thrwch holl amdo
Niwlog y dyffryn ei lygad effro,
Ond nwyd ei enaid a naid ohono;
Pwy na'i gwêl? Awen wemp yn goleuo;
Bardd a'i annedd bridd heno-megis rhith,
A thanau athrylith yn ei threulio.
TREMIO I MAES
WRTH y tân un tro eisteddwn
Yn ofidus ac yn drist,
O'r adnoddau aml a feddwn
'Doedd yn bod na chod na chist,
Na'r un ganig a gordeddwn
A roi falm i'm calon drist.
Troi a throsi llên y llonwyr
I geisio codi 'nghalon brudd,
Ymbil ar yr hen athronwyr
Am ryw hwb o nos i ddydd,
'Doedd y rhain i gyd ond honwyr,
Crach ddoctoriaid calon brudd.
Tremio i maes, a thrwy'r ystrydoedd
Rhuai'r oerwynt, curai'r glaw,
Ond canfûm beth mwy na bydoedd
Gau gysurwyr ol fan draw,
Hogyn bratiog, troednoeth ydoedd
Yn chwibanu yn y glaw.