Tudalen:Patrymau Gwlad.djvu/46

Gwirwyd y dudalen hon

YR HEN YSTORI

DISTAWODD gosber gydag olaf grŵn;
Buan yr eistedd un o'r myneich mud
Wrth y bwrdd bach o fewn ei gell heb sŵn
I rusio'r plufyn ar y crasgroen drud.
Llen ar ôl len a leinw ei brysur law
Nes cyrraedd gwaelod y ddiwethaf oll;
I'w lygad ieuanc deigryn brwd a ddaw
A edrydd hiraeth am ryw gysegr coll.

Dan adfail gandryll y fynachlog fawr
Mae'r ysgrifennwr angof yn ei fedd;
Yn noddfa gwrêng a bonedd gynt, yn awr
Ni welir namyn llanc breuddwydiol wedd
Mewn meddwdod mwyn uwchben y geiriau gwin
A yf o hen ystori'r memrwn crin.

AGOR NEU GAU?

A'R bore balch â'i draed ar geyrydd byd
Trois yng ngor-hyder newydd nwyf a nerth
I ddringo, a gweld yr ysblanderau drud
A oedd yn orwel im o'r foelallt serth,
Moelallt nad oedd ond bryncyn; onid gwell
Tario'n fodlongar, a myfyrio mwy
Ar res anghyffwrdd y pinaglau pell?