Tudalen:Pererindod Heddwch.djvu/12

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

. . . canys lle mae cenfigen ac ymryson, yno y mae terfysg a phob gweithred ddrwg. Eithr y doethineb sydd oddi uchod yn gyntaf pur ydyw, wedi hynny heddychlawn, hawdd ei thrin, llawn trugaredd a ffrwythau da, di-duedd a diragrith; a ffrwyth cyfiawnder a heuir mewn heddwch gan y rhai sydd yn gwneuthur heddwch."

Am droseddau eraill—megis meddwdod, godineb a llofruddiaeth y mae'r Eglwys yn eithaf pendant yn ei chondemniad, nid o'r achosion yn unig ond o'r effeithiau hefyd. Ac y mae'r un Apostol yn rhybuddio rhag y duedd oesol sydd ynom i gondemnio rhai troseddau o gyfraith Crist ar draul bychanu eraill:

"Compounding for the sins we are inclined to
By damning those we have no mind to.
"

Gofynna'r Hen Gorff, er enghraifft, adduned o lwyrymwrthodiad â gwin gan weinidogion a swyddogion; ac y mae Eglwys Loegr yn llwyr-wahardd ysgar-briodas. "Eithr os derbyn wyneb yr ydych, yr ydych yn gwneuthur pechod ac yn cael eich argyhoeddi gan y gyfraith megis troseddwyr. Canys y neb a ddywedodd 'Na odineba' a ddywedodd hefyd 'Na ladd'."

Felly gan fod Cymdeithasfaoedd gynt wedi ymrwymo "i barhau i oleuo ein haelodau a gwrthwynebu rhyfel (boed achos neu effaith) ym mhob ryw fodd, ac yn galw ar Henaduriaethau eglwysi ac aelodau wneuthur yn gyffelyb," priodol yw chwilio'n ddwys ym mhob Sasiwn a seiat i achosion, moddion a dibenion y mawrddrwg hwn, nid yn unig er mwyn ein hachub ein hunain, ond er mwyn achub y byd a'n brodyr o'u pechod a'u poen. Nid digon gadael drwg a da moddion rhyfel yn gwestiwn pen-agored i'r ieuainc, ac weithiau benderfynu "gwrthwynebu pob ffurf ar ryfel," a phryd arall hyrwyddo Ymgyrch Arfau, ac anfon y bechgyn drwy dân Moloch y rhyfel. Ymgais yw'r tudalennau a ganlyn i gasglu rhai o'r ffeithiau pwysicaf ynglŷn â moddion a chanIyniadau y rhyfel olaf, ac achosion y rhyfel presennol er mwyn "goleuo" crefyddwyr Cymreig. Dyfynnwyd yn helaeth o dystiolaeth gwladweinwyr a chadlywyddion enwog, yn hytrach na chrefyddwyr ac athronwyr, fel o enau dau neu dri o dystion cymwys y cadarnheir pob gair am natur a hanes eu maes eu hunain.