Prif Weinidog, gwendid ein gweriniaeth yw "ei barn fyr olwg a ffurfir yn frysiog ac a fynegir yn rymus heb sail ddigonol o fyfyrdod neu wybodaeth" (Iarll Baldwin, 4 Tachwedd 1939). Yn ôl Prif Weinidog arall, y mae achosion cuddiedig ac amcanion dwylo dynion tu cefn i'r "farn gyhoeddus":
"Ffurfir a datgenir y farn gyhoeddus gan beirianwaith. Gwna newyddiaduron beth wmbredd o waith meddwl y gŵr a'r wraig gyffredin. Porthant hwy a'r fath ffrwd barhaol o opiniynau safonol, a llif o newyddion a theimladau, fel nad oes nac angen nac amser ganddynt am fyfyrdod personol. Y mae hyn oll yn rhan o broses addysgol anferth. Ond addysg yw sydd yn myned i mewn trwy un glust ac allan drwy'r llall. Y mae yn gyffredinol a hefyd yn arwynebol. Cynhyrcha nifer anferth o ddinasyddion safonedig, wedi eu gwisgo âg opiniynnau, rhagfarnau a theimladau a berthyn i'w dosbarth neu i'w plaid.... Nid yw'r duedd hon at ddylanwadu ar y dorf a mygu'r opiniwn unigol yn amlycach yn un maes o weithrediadau dynol nac ym maes rhyfel. Yn yr Armagedon yr aethom drwyddi yn ddiweddar gwelwyd difodiant llwyr ar arweiniad personol. Y rhyfel mwyaf a'r gwaethaf ydoedd, y mwyaf dinistriol, ac mewn llawer modd y mwyaf didrugaredd."
Nid yw meddiant y papurau gan arglwyddi'r Wasg bellach yn ddirgelwch. Cyhoeddwyd gan Arglwydd Camrose yn 1939 hanes perchenogaeth Gwasg Llundain. Ef ei hun a reola'r Daily Telegraph. Prynwyd meddiant y Times gan Major Astor oddi ar deulu Arglwydd Northcliffe. Arglwydd Beaverbrook yw perchennog y Daily Express a'r Evening Standard. Arglwydd Southwood yw llywydd cwmni y Daily Herald. Arglwydd Rothermere ydoedd perchennog y Daily Mail, yr Evening News a'r Sunday Despatch. Arglwydd Kemsley yw cadeirydd yr Allied Newspapers sydd yn llywodraethu un papur dyddiol a thri phapur Sul. Diwedda pamffledyn Arglwydd Camrose gyda'r geiriau:
"Yn y dyddiau hyn y mae yn dda i'r cyhoedd gael gwybod eiddo pwy yw'r golygiadau a ddatgenir gan y gwahanol bapurau."
Bechgyn cyffredin, gynt o Ferthyr Tydfil, oedd dau o'r arglwyddi hyn, gyda dawn prynu a gwerthu. Bellach â eu barn a'u rhagfarn ledled y deyrnas bob dydd, tra mae'r eglwysi a'u holl weinidogion yn methu cyrraedd ond y ddegfed ran o'r cyhoedd, unwaith mewn wythnos, i draethu