y gyrru didrugaredd o'r peiriant milwrol tu ceín i'r delwau dychrynedig hyn. Llithrasant i ryfel, neu, yn hytrach, stagro a baglu a wnaethant, efallai trwy ffolineb, ac fe fuasai trafodaeth, yn ddiamau gennyf, wedi ei rwystro."
"Gorfodir fi, gan ymchwil onest a thrwyadl o'r holl ysgrifau diplomyddol a'r holl gytundebau a'r perthynasau cyn y rhyfel, i ddatgan yn ddifrifol na orffwys cyfrifoldeb am y rhyfel ar un genedl yn unig o'r gwledydd gorchfygedig. Pan oedd ein gwledydd yn yr ymladdfa â gelyn peryglus, ein dyletswydd ydoedd cadw morale ein pobl i fyny, a lliwio ein gwrthwynebwyr yn y lliwiau tywyllaf, gan osod ar eu hysgwyddau yr holl fai a'r cyfrifoldeb."
LLYGRIAD Y FFYNHONNAU
Cyfeiriwyd eisoes, a chyfeirir eto, at ddylanwad ofnadwy y Wasg. Penodwyd Arglwydd Northcliffe yn Gyfarwyddwr Propaganda yng ngwledydd y gelynion. Crewyd a chyhoeddwyd yn y Wasg gartref hanesion mwyaf gwrthun am erchyllterau ac anfadweithiau'r gelynion a oedd yn hollol gelwyddog, a chelwyd pob hanes am weithredoedd trugarog. O'r holl hanesion erchyll am anfadwaith llynges danfor yr Almaen yn tanio ar forwyr diamddiffyn mewn cychod, tystiodd yr Is-lyngesydd Americanaidd Sims fod y rhan fwyaf yn hollol gelwyddog, ac na wyddai ef ond am un achos o'r fath. Gwelir hanes cywilyddus y propaganda bwriadol hwn, er mwyn codi dychryn a dicter a chynhyrfu dial, yn llyfr yr Arglwydd Ponsonby, Falsehood in Wartime. Cyrhaeddodd yr enllib cyson a'r nwyd dialgar i bob cylch ac i bob gwlad, heb eithrio'r eglwysi Cristnogol. Cyhoeddwyd yn Ffrainc wedi'r rhyfel lyfr pwysig gyda'r teitl trawiadol "Brad y Clerigwyr i ffieiddio y rhai, yn glerigwyr, meddylwyr ac athronwyr a cheidwaid y ffydd, oedd yn cael tâl a pharch a bywoliaeth am gadw'r gwirionedd cyffredinol a chatholig, ond eto a oedd yn barod i wyro barn i ateb gofynion nwydau plaid a chenedl. Dyma dystiolaeth y gŵr Catholig enwog a'r gohebydd milwrol a welodd feysydd-gwaed y rhyfeloedd ar hyd y rhyfel:
"Credaf fod clerigwyr pob cenedl, oddigerth ychydig o'r rhai gwrol a chysegredig, wedi darostwng eu ffydd, sydd yn Efengyl o gariad, i ffiniau cenedl. Yr oeddynt yn wladgarwyr cyn eu bod yn offeiriaid, ac yr oedd