chanlyniadau'r rhyfel gan yr Americanwr enwog Kirkby Page, dan nawdd Cyngor Eglwysi'r America, gyda rhagair gan y Dr. Fosdick. O'r llyfr hwnnw fe ddyfynnir y ffeithiau a ganlyn:
COSTAU ARFOGAETHAU Y RHYFEL
Gwariwyd yn y deuddeng mlynedd cyn y rhyfel diwethaf ar arfogaethau:
Gan yr Almaen, Awstria a'r Eidal | . . . | 1,383,000,000p. |
Gan Rwsia, Ffrainc a Phrydain | . . . | 2,360,000,000p. |
heb gyfrif costau rhyfel De Affrica, sef 178,000,0cop. At hyn rhaid cyfrif costau y rhyfel a ymladdwyd rhwng 1914 a 1918 mewn arian a gwerth bywydau ac eiddo, sef 67,589,000,000p.
Y COSTAU DYNOL
Lladdwyd milwyr | . . . | 10,000,000 |
Tybiwyd eu lladd | . . . | 3,000,000 |
Dinasyddion meirw | . . . | 13,000,000 |
Clwyfwyd | . . . | 20,000,000 |
Carcharorion | . . . | 3,000,000 |
Amddifaid | . . . | 9,000,000 |
Gweddwon | . . . | 5,000,000 |
Ffoaduriaid | . . . | 10,000,000 |
Nid rhyfedd i'r Dr. Fosdick yn ei Ragair i'r llyfr gyffesu:
"Ond gwelaf hyn yn glir, mai rhyfel yw'r pechod cymdeithasol mwyaf, a'r mwyaf dinistriol, sydd yn gorthrymu'r ddynoliaeth heddiw, ei fod yn llwyr ac yn anfeddyginiaethol anghristionogol, bod y drefn filwrol yn golygu'r cwbl nad olygai'r Iesu, ac yn golygu dim o'r hyn olygodd Ef; ei fod yn wadiad mwy haerllug o bob athrawiaeth Gristnogol o Dduw ac o ddyn nag eiddo holl atheisiaid y ddaear. Gwelaf nad yw'r cwerylon rhwng ffwndamentalwyr a modernwyr, uchel-eglwyswyr ac isel-eglwyswyr ond yn degymu'r mintys a'r cwmin, oni bydd i'r Eglwys ddelio â'r prif-gwestiwn hwn—Crist yn erbyn rhyfel."
Y COSTAU MOESOL
Yn ôl cyn-Brif Weinidog yr Eidal (Signor Nitti):
"Bychan oedd y colliadau mewn eiddo a bywyd dynol o'u cymharu â'r tanseilio a fu ar foesau a gostwng safonau diwylliant a gwareiddiad."