Pan welais gyntaf yn 1915 ddatganiad Brawdoliaeth y Cymod mai cariad, fel y'i dehonglwyd ym mywyd a marwol aeth y Gwaredwr, ydoedd yr unig ffordd i gael gwir fuddugoliaeth ar drygioni, ysgrifennais am fanylion pellach, euthum i Gynhadledd y Frawdoliaeth, cynigiais fyned gyda Maud Royden ac eraill mewn carafan i gyhoeddi'r Genhadaeth Hedd; ond cyn i mi gyrraedd, daeth y newydd fod y dorf yn Nuneaton wedi llosgi'r garafan a churo'r cenhadon. Felly nid oedd dim i'w wneuthur ond cynnig fy ngwasanaeth iddynt mewn rhyw ffordd arall.
DATGYSYLLTU
Yr argyfwng a barodd imi yn derfynol ddatgysylltu fy hun o'm swydd a'm gwaith adeiladol ydoedd ffarwelio â'm brawd a'm cefndyr a oedd yn swyddogion yn yr R.W.F. yn Rushden ac yn ymadael am y Dardanelles. Dywedai fy nghefnder wrthyf, wedi hir ymgom yn yr hwyr, na welem ein gilydd eto, a'i fod wedi cael breuddwyd hynod, flynyddoedd yn ôl, mai marw ar faes rhyfel a fyddai ei dynged. "A theimlaf rywsut ei fod yn wrong i gyd; ond ni chefnaf ar y bechgyn." Dywedais innau os ydoedd ef am adael y cwbl er mwyn y deyrnas na allwn innau lai na gwneuthur rhywbeth cyffelyb dros Deyrnas Dduw. Atebodd yntau, "Os na bydd neb arall, mi fydda' i yn eich deall." Yn y llythyr olaf a gefais oddi wrtho dywedodd ei fod yn gweddïo am i mi gael nerth i ddilyn fy nghenhadaeth hedd, ac yr oedd hyn bellach megis sacrament â'r meirw.
Nid hawdd ydoedd datgysylltu â chyfeillion swydd a gwaith. Yr oeddwn yn ysgrifennydd i dair o gymdeithasau adeiladu, ac yr oedd ar eu byrddau wŷr milwrol fel Arglwydd Kenyon ac Arglwydd Treowen, hen gadfridog oedd yn methu à deall safle Heddychwr. Ymwelais â Chyrnol David Davies, oedd gyda Bataliwn yr R.W.F. yn Llandudno, i ymddiswyddo o'm gwaith. Cefais ginio gydag ef a swyddogion y fataliwn ac yna trafodaeth hir hyd yn hwyr y nos am fy mhenderfyniad i ymroi i waith heddwch. Dadleuai yntau y cytunai â mi fod angen y fath genhadaeth cyn y rhyfel, ac y deuai yntau gyda mi wedi'r rhyfel, ond ffwlbri glân ydoedd yng nghanol rhyfel. Gofynnai paham na allwn