Roberts (llywydd Eglwys Unedig Canada wedi hynny), a phenodwyd ef yn ysgrifennydd i'r frawdoliaeth fechan a ffurfiwyd. Lledaenodd Brawdoliaeth y Cymod wedi hynny, ac ar ôl y rhyfel bu'n lefain yn eglwysi'r Cyfandir a'r Unol Daleithiau. Mewn amser daeth rhai o'r aelodau cyntaf yn adnabyddus iawn—megis George Lansbury, Richard Roberts, Leyton Richards, a ddaeth yn weinidog Carrs Lane, Birmingham; Dr. Henry Hodgkin, ysgrifennydd cyntaf Cyngor Eglwysi Crist yn Sina. Ond ym mlynyddoedd y rhyfel bu'n rhaid wynebu gwg yr eglwysi, a rheg y Wasg, ac weithiau ruthriadau'r dorf ddrwgdybus. Cofiaf gynhadledd yn Nhŷ'r Crynwyr yn Llundain, a milwyr a morwyr yn dringo dros y pyrth i ruthro ar y cyfarfod dan anogaeth papurau fel John Bull, o eiddo Bottomley a Northcliffe. Apêl George Lansbury am ffyddlondeb i Grist, a thawelwch rhyfedd yr hen Grynwyr, a'n cadwodd yn ddianaf nes egluro i'r milwyr wir natur y cyfarfod. Dringasant oll yn ôl a bu eu heglurhad yn foddion i chwalu'r dorf nwydwyllt.
Yn gynnar yn 1915 cynigiais innau fy ngwasanaeth i'r Frawdoliaeth a gweithredais fel cyd-ysgrifennydd â Richard Roberts. Gwelsom yn gynnar fod rhwygiadau'r eglwys yn Ewrop yn adlewyrchiad o rwygiadau'r eglwysi gartref yn ei sectau gelyniaethus ar ôl helynt y Datgysylltiad, a bod arnom angen oll am ras ac amynedd i ddeall a dysgu'r ddisgyblaeth gatholig yn ein plith ein hunain. Ymysg y pleidiau politicaidd, yr I.L.P. yn unig, dan arweiniad gwŷr crefyddol fel Keir Hardie a Bruce Glasier, oedd yn gwrthwynebu y rhyfel ar dir brawdoliaeth y gweithwyr. Ffurfiwyd hefyd y No Conscription Fellowship, dan arweiniad Clifford Allen (wedi hynny Arglwydd Allen), i gynrychioli Gwrthwynebwyr Cydwybodol o bob math, yn grefyddwyr, Sosialwyr a Chomiwnyddion.
Y SENEDD RYDDFRYDOL
Yn y Senedd, nid oedd ond dyrnaid o Heddychwyr sicr, er i'r Blaid Ryddfrydol ddod yn orchfygol yn 1906, trwy arweiniad Pasiffistiaid fel Campbell Bannerman a Lloyd George yn Rhyfel De Affrica. Cofiaf fy ngwahodd i ginio yn y Tŷ Cyffredin i gyfarfod rhai o'r aelodau a allasai wrth-