wynebu'r Mesur Gorfodaeth Milwrol yn 1916. Cloffi rhwng dau feddwl yr oedd y Prif Weinidog Asquith a Syr John Simon ar y pryd. Eglurodd yr hen wron John Dillon nad oedd gan yr Aelodau Gwyddelig gyfrifoldeb ond am ei rwystro yn Iwerddon, ac nad oedd ganddo ffydd o gwbl yn niplomyddiaeth gudd Prydain. Dywedai J. H. Thomas ei fod wedi cyfarfod yr Arglwydd Lansdowne, ac iddo ddweud wrtho fod Churchill wedi dod yn glir o'r fagl, ei fod yntau wedi llusgo'r Llywodraeth i helynt ofer y Dardanelles, am y dywedasai'r Prif Weinidog yn y Senedd, "Cyn i un o'r gynnau danio, yr oedd y Cabinet wedi cymryd cyfrifoldeb llwyr am y Dardanelles. "Ond," meddai Thomas, "pa bryd cyn i'r gynnau danio'—ychydig oriau?" "Clyfar iawn," ebe Lansdowne. Yn ddiweddarach disgrifiwyd yr anturiaeth ofer gan Churchill, "I recommended the Dardanelles expedition as a legitimate war gamble." Ond yno y collwyd 150,000 o Brydeinwyr, fy nghyfaill pennaf, a lluoedd o Gymry gwladaidd. Wrth wrando ar gossip gwleidyddol o'r fath a dod allan o'r ystafell gydag Allen, dywedais wrtho, "Y mae'n dda gennyf ddod allan i'r awyr agored." Atebodd yntau, "Yr wyf yn cydweled â chwi yn hollol; nid oes unrhyw obaith inni yma am nad oes ganddynt egwyddor sylfaenol; rhaid inni ymddiried yn ein hadnoddau ein hunain." Fel ffaith, credaf mai cyfeillgarwch yr Arglwyddes Otteline Morel a'r Prif Weinidog Asquith a fu'n foddion i liniaru y Mesur Gorfodol, a derbyn gwelliannau Philip Snowden ar gyfer y Gwrthwynebwyr Cydwybodol, a hynny mewn Senedd a'u mwyafrif yn Rhyddfrydwyr ac Anghydffurfwyr! Brawd yr Arglwyddes, yr Arglwydd Henry Bentinck, ac yntau'n fab i'r Dug o Portland, a fu'n un o'r ychydig leisiau cyson dros haelioni a thegwch. Felly, o bob enwad a dosbarth y casglwyd yr ychydig weddill a wrthwynebodd neu a geisiodd liniaru drygau y rhyfel yn y maes gwleidyddol.
HEDDYCHWYR Cymru
Nid oedd Cymru heb ei Heddychwyr yn y dyddiau hynny. Yr oedd gwŷr adnabyddus yn y Gogledd, megis y Dr. Puleston Jones, y Dr. Cernyw Williams, y Prifathrawon Tom Rees a John Morgan Jones, yr Athro T. Gwynn Jones,