Tudalen:Pererindod Heddwch.djvu/36

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Glasier. "Ydyw, y mae'n wir," meddai, "ond y mae'n rhaid i chwi drosi'r gwirioneddau hyn i'r werin mewn ffordd y gallant eu deall." Gwendid Macdonald efallai oedd dal y delfrydau hyn yn ei ben yn hytrach nag yn ei galon, a methu dod yn nes na hyd braich at ei gymrodyr o'i blaid ei hun, a diweddu ei oes yn unig yn arweinydd ymhlith y Philistiaid.

LLONYDDWCH LLŶN

Rhyw nefoedd fechan ydoedd bywyd gwlad a bugeilio defaid, gwaith caled, gorchwyl tawel a bwyd ffarm, wedi dwndwr Llundain ac anarchiaeth wyllt bywyd y troseddwyr ieuainc. Mor braf ar lethrau'r bryniau oedd clywed yn nechrau haf:

Bref côr yn brefu cariad,
Neb yn medru brefu brad

a gweled drama natur yn ymagor, wedi eira hir y gaeaf a'r gwanwyn glân hyd at wenith gwyn y cynhaeaf. Yr oedd prinder cysuron a blinder corff yn rhyw gysur ynddynt eu hunain yn wyneb dioddefaint dynion a rhaib ryfel ac ariangarwch y dyddiau hynny. Mor wahanol hefyd ydoedd bywyd ffarm a chymdeithas gwerinos gwlad dawel i ddadwrdd torfeydd a threiswyr byd. Cymorth hawdd ei gael mewn cyfyngder ydoedd cwmni'r annwyl Puleston ym Mhwllheli ac ambell seiat gydag ef a'r Parch. Conwy Pritchard a'r dyrnaid Heddychwyr yno. Cofiaf annerch cyfarfod cyhoedd- us digon tawel yno, a chlywed wedyn fod rhai o'r dorf oedd yno wedi bwriadu ei dorri i fyny. Fel Keir Hardie yn y De, bu Puleston ar fin torri ei galon wrth weled enciliad byd ac Eglwys, ac ambell awr yn deisyfu cael marw wrth weled cymrodyr a chymdogion wedi ymollwng gyda'r lli i ryfel a dial, a dicter wrth y rhai oedd yn dal yn eu proffes o ffordd yr Efengyl tuag at droseddwyr.

Ond yr oedd cri hen famau gwlad am eu bechgyn cyn dristed á bref y defaid a'r ŵyn wrth gael eu hysgaru, ac yn ormod i ddyn fedru aros yn nhawelwch bryniau Llŷn. Euthum un diwrnod, mewn ofn a gwendid, i Ffair Pwllheli i geisio datgan fy nghenadwri heddychol. Ymddangosai'r dorf, a oedd yn prynu a gwerthu, yn ddifater ddigon, a'r ugeiniau o filwyr a morwyr yno, a'r plismyn awdurdodol yn