mewn tymer basiffistaidd iawn. Gwrandewais neithiwr mewn cinio i Phillip Gibbs ar ei ddychweliad o faes y rhyfel, ar ddisgrifiad mor angerddol a difrifol ar beth a olygai'r rhyfel mewn gwirionedd ag a glywais erioed. Effeithiodd yn ddwfn ar gynulleidfa o wleidyddwyr a newyddiadurwyr celyd. Pe byddai'r bobl yn gwybod y gwir, fe atelid y rhyfel yfory. Ond wrth gwrs ni wyddant ac ni allant wybod. . . . Y pethau a anfonir i'r Wasg yw darluniau dêl a phawb yn gwneuthur gwrhydri. Y mae'r peth yn ddychrynllyd a thu hwnt i'r natur ddynol ei ddioddef, a theimlaf na allaf fyned ymlaen â'r busnes gwaedlyd; buasai'n well gennyf ymddiswyddo."
Cofiaf ymgais gan nifer ohonom, Puleston ac eraill, yn Sasiwn y Methodistiaid yng Nghaernarfon yn 1917 i annog yr Eglwys i erfyn am heddwch trwy gymod. Cefais wrandawiad teg, a phasiwyd pleidlais gymedrol, er bod nifer o'r henuriaid a'r pregethwyr poblogaidd yn wrth-heddychwyr. Gresyn ydoedd meddwl bod gwleidyddwyr fel Lloyd George yn cyfaddef yn y dirgel, a Cheidwadwyr fel Arglwydd Lansdowne yn cyhoeddi o bennau'r tai, farn aeddfetach am ddrwg rhyfel ar y pryd na llais ac argyhoeddiad y Cenhadon Hedd; pe buasent wedi cadw eu ffydd a dal i gyhoeddi cyngor Crist, a gwahoddiad Duw, "Deuwch, ymresymwn ynghyd; pe byddai eich pechodau fel ysgarlad," pwy a ŵyr na buasent wedi bod yn gymorth i ffydd y Cymro cyfnewidiol a oedd yn Brif Weinidog y wlad, ac wedi arbed siom y milwyr yn yr Eglwys, a'u gwared rhag edrych bellach at y pleidiau Sosialaidd a Chomiwnyddol am sail heddwch a chyfiawnder ar y ddaear? Yn Rwsia difethwyd Llywodraeth gymedrol Kerensky oherwydd ei orfodi gan Brydain Ffrainc i barhau i ryfela os ydoedd am gael cymorth arian- nol y Cynghreiriaid. Erfyniodd arnynt liniaru tipyn ar eu "Hamcanion Rhyfel" er mwyn achub ei wlad a'i Wladwriaeth; yr oedd colliadau Rwsia eisoes yn agos i 4,000,000 0 filwyr ac ni fynasent ymladd drachefn; ond ofer a fu erfyniad Kerensky i'r Cynghreiriaid a chwympodd ei Lywodraeth ger bron Lenin a Trotsky, a addawent heddwch yn gyntaf peth i'r werin yn ei thryblith. Gwrthodwyd hefyd gais Ramsay Macdonald a Philip Snowden i fynd i Gynhadledd Sosialaidd yn Stockholm i gyfarfod arweinwyr Sosialwyr gwerinol o'r Almaen i ddechrau trafodaeth ar heddwch.