y De. Tynnwyd nawdd a rheolaeth y Llywodraeth o'r pyllau glo a gadwodd elw uchel a chyflog o gyfartaledd 5p yn yr wythnos i'r glowyr; disgynnodd yr elw a'r cyflog yn ebrwydd. Y canlyniad oedd y streic fawr ofer yn 1921 i geisio osgoi'r cwymp anocheladwy a esgorodd ar ddeunaw mlynedd o golled a thlodi ac anghyflogaeth anghyffelyb, a'r ecsodus o 400,000 o waed ifanc y De i Loegr. Amhosibl hefyd ydoedd cysoni dial ac iawndal y buddugoliaethwyr, a gorfodi'r Almaen i drosglwyddo ugain miliwn o dunelli o lo yn flynyddol i Ffrainc a'r Eidal, heb i hynny ddifetha prif farchnadoedd pyllau glo y Rhondda. Mewn amser, dechreuwyd cyfaddef hyn gan rai o brif benaethiaid byd masnach ei hun. Dyma eiriau Mr. Reginald McKenna, Llywydd y Midland Bank:
"Ni a gollwn fwy yn ein gwlad gan fodolaeth 2,000,000 o wŷr di-waith nag a dderbyniwn gan werth iawndal yr Almaen mewn deng mlynedd ar hugain. Pan welwn y pethau hyn dechreuwn amau ai er lles i'r Deyrnas Unedig y bydd talu'r iawndal, ac os telir a allai droi yn felltith yn hytrach na bendith? Am y rhan sydd yn ddyledus i ni, nid wyf yn gobeithio y telir ef, ond pe byddai yn fy ngallu mi a'i difodwn."
Dywedodd yr un gŵr mewn man arall ein bod
"yn dechrau gweled yng nghynnydd ein hanghyflogaeth bod maddau i'r gelyn, nid yn unig yn Gristnogaeth dda, ond yn fusnes da yn y diwedd."
Erbyn 1925 yr oedd cyflwr truenus y glowyr yn bygwth cynnwrf drachefn am fod y cyflogwyr yn ceisio gorfodi gostyngiad pellach yn y cyflogau bychain. Penodwyd gan y Llywodraeth Comisiwn Ymchwil, dan lywyddiaeth yr economydd enwog, Syr Josiah Stamp. Wrth iddo groesholi Syr Evan Williams, llywydd Cyflogwyr y Pyllau Glo, am sail ei obaith i'r diwydiant wella wrth ostwng y cyflogau, atebwyd iddo: "Hyn yn syml; y mae costau cynhyrchu yn llai ac oriau gweithio yn hwy yn yr Almaen." Yna, meddai Syr Josiah Stamp, "Onid ydych yn gorfodi'r Almaen drwy rym politicaidd i weithio oriau hir?" (25 Gorffennaf 1925).
Wrth geisio osgoi canlyniadau polisi'r dial a'r iawndal ar weithwyr truain y pyllau glo, cwblhawyd difethiant y Rhondda gan helynt ofer a hir yn 1926, a bygythiwyd sylfeini'r Wladwriaeth gan y Streic Gyffredinol a achoswyd