Yn rhyfedd ddigon, dyna ydoedd sylw Arglwydd D'Abernon, llysgennad Prydain yn Berlin, na byddai i'r iawndal gael ei setlo ond trwy "genhadaeth trwy'r eglwysi." Ond parhaodd yr eglwysi'n fud a byddar i achos ac effaith gwrthgiliad y genedl o egwyddor sylfaenol gweddi pob Cristion, "Maddau i ni ein dyledion fel y maddeuwn ninnau i'n dyledwyr," a thaliad drud dioddefaint y De oedd pris ein difaterwch ac anwybodaeth o natur rhyfel a dial.
Mor ddiweddar â 1929, yn adroddiad blynyddol Cwmni y Powell Dyffryn Steam Coal, y pwysicaf yng Nghymru, fe esboniwyd y golled o 231,000p. ar waith y flwyddyn yn y geiriau a ganlyn:
"Elfen bwysig arall sydd wedi peri cynnydd anferth i'n hanawsterau yw cwestiwn yr iawndal. Y mae'n ffaith nas cydnabyddir yn ddigonol fod y trefniadau am iawndal mewn nwyddau wedi niweidio'n ddirfawr ddiwydiannau'r wlad hon. O'r holl ddiwydiannau, y fasnach lo a ddioddefodd fwyaf, ac o'r holl feysydd glo, De Cymru a orfu ddwyn y rhan fwyaf o'r baich, gan fod glo iawndal yr Almaen wedi treiddio i farchnadoedd a dderbyniai gynt y rhan fwyaf o'u cyflenwad glo o Ddeheudir Cymru."
Rhyfedd hefyd ydyw cofio bod y "deyrnas, y nerth a'r gogoniant" yn nwylo Cymro yn ystod y rhyfel, ac arglwyddiaeth cyfoeth y pyllau glo yn y dyddiau hynny yn eiddo i grefyddwyr Cymreig, a bod y naill a'r llall yn cael parch Sasiynau heb unrhyw rybudd iddynt am beryglon y "nerth a'r llu," na chyfarwyddyd yn y rhyfel dosbarth a andwyodd fywyd gwerin Cymru. Yn y dirwasgiad economaidd a'r rhyfel mewn diwydiannaeth yng Nghymru y magwyd gwŷr eithafol y Dde a'r Aswy; o'r un achosion ac anobaith, y chwe miliwn o wŷr di-waith yn yr Almaen, y cyfodwyd "gwylliaid" y Blaid Naziaidd.
NORTHCLIFFE
Un o'r dylanwadau mwyaf dirywiol ar y "farn gyhoeddus" ydoedd Gwasg Northcliffe, a fu'n brif foddion i wyro barn yn rhyfel De Affrica, ac i ddifetha amcanion teg Lloyd George i wneuthur heddwch cyfiawn yn Fersai. Pan gyhoeddwyd pamffled W. T. Stead gyda'r teitl "A laddaf fi fy mrawd-y Boer?" sylw un o'r papurau ydoedd, "Gwnaf, ac mor ddideimlad a phe lladdaswn lygoden fawr yn cario'r