pla." Cyd-genedl Botha a Smuts oedd y Boeriaid, a bu farw 20,000 o'u gwragedd a'u plant yn ein "Concentration Camps."
Sylw y diweddar Brif Weinidog Arglwydd Salisbury am ei wasg geiniog a'i bapurau lluniau oedd "fod Harmsworth eisoes wedi dyfeisio papur i'r rhai na allent feddwl, ac wedi hynny i'r rhai na allent ddarllen." Bachgen tlawd o Iwerddon ydoedd, a lwyddodd yn ei flynyddoedd cynnar gyda phapurau fel y Sunday Companion, Puck, The Girls' Friend a Comic Cuts. Cipiodd lwyddiant trwy ei ddawn ddigywilydd i chwarae ar deimladau arwynebol plant dynion. Erbyn y rhyfel olaf, yr oedd yn rheoli y Times a'r Daily Mail a phapurau eraill. Y mae ei hanes i'w gael gan hen Olygydd y Daily Mail, dan y teitl My Northcliffe Diary (Tom Clarke).
Yn Awst 1914 dywedodd wrtho, "Beth yw hyn a glywais am anfon Byddin Brydeinig i Ffrainc? Ffwlbri yw. Nid â'r un milwr yno gyda'm caniatad. Dywedwch hynny yn y papur yfory." Ym Medi 1914 ei gri oedd: "Geilw'r genedl am Arglwydd Kitchener"; ym Mai 1915, "Rhaid i Kitchener fynd," ac yn yr un mis, "Yn sicr daeth yn bryd i ni baratoi nwy i gynorthwyo ein hymdaith i'r Almaen." Pan fynnodd gael gwared ag Asquith yn 1916, dywedodd, "Ceisiwch ddarlun o Lloyd George yn gwenu, a thano 'Gwnewch yn Awr,' a'r darlun hyllaf sydd bosibl o Asquith, a thano Arhoswch a Gwelwch'." Cyn pen yr wythnos ysgrifennodd erthygl, dan y pennawd "Arglwydd Northcliffe ar Lloyd George," wedi ei hysgrifennu i "80,000,000 o ddarllenwyr" i'w hanfon i bapurau America a Chanada. Dywedodd fod Lloyd George "yn myned yn rhy gyfeillgar â Winston Churchill; ni faddeuaf iddo am amryfusedd Antwerp a Gallipoli." Yn 1917 ysgrifennodd, "Y mae gormod o lawer o drafod heddwch yn y papurau; y mae'n creu awyrgylch heddwch. Ni all heddwch fod eto." Penodwyd ef yn Weinidog Propaganda; yr oedd ei gyflog o'r papurau yn 25,000p. yn y flwyddyn. Pan ymddangosodd apêl Arglwydd Lansdowne am gyhoeddi telerau heddwch yn 1917, yr oedd effaith dirywiad y Wasg yn amlwg yn ein bywyd cyhoeddus. "Ni bu enllib erioed mor haerllug, a direswm erioed mor wyllt, drwgdybiaeth erioed mor greulon" (Bywyd C. P.