RHAGAIR
YSGRIFENNAIS y tudalennau a ganlyn wedi clywed hanes trafodaeth Sasiwn Bryncrug, a darllen am yr anghydfod meddwl a barn yng nghylchoedd crefyddol a gwleidyddol Cymru ar ryfel. Credais y gallasai adrodd rhai o ffeithiau a phrofiadau chwarter canrif fod o gymorth i'r rhai a gais drafodaeth frawdol ar gyfeiriadau a cham-gyfeiriadau'r Genhadaeth Hedd a broffeswn fei Cymry a chrefyddwyr mewn Eisteddfod a Sasiwn. Meddyliaf am gyfeillion personol yn y rhyfel olaf a'r rhyfel presennol sy'n disgwyl inni chwilio'n ddwys am ffordd o waredigaeth. Ni welsant efallai, ym mhenbleth y dewis personol a wthiwyd arnynt gan yr argyfwng ofnadwy, yr un ffordd ond ymladd hyd fuddugoliaeth. Meddyliaf hefyd am gyfeillion eraill, na allent gymryd rhan o gydwybod mewn rhyfel ac a geisiodd, mewn cyfyng gyngor, ffyrdd eraill o wasanaeth ac o genhadaeth hedd. Cofiaf fod fy mrodyr fy hun, a rhai o'm cyfeillion pennaf, wedi gwasanaethu'r wlad mewn byddin a llynges, a hynny heb wanhau dim ar ein parch a'n serch at ein gilydd. Credaf fod brawdoliaeth o'r fath yr un mor angenrheidiol a phosibl, wrth "ddryllio canolfur y gwahaniaeth" rhyngom mewn seiat a chyfeillach, a bod cymod a rhwymyn yng Nghrist a'i ysbryd i'w cael rhwng Gras a Gwirionedd. Eisoes y mae Archesgob ac arweinwyr Anghydffurfiaeth, yn rhyfelwyr ac yn heddychwyr, wedi ymuno mewn apêl arnom i ymgynnull ym mhob ardal i wynebu yr anawsterau a'r gwahaniaethau hyn, er gwaethaf cloddiau terfyn enwad a phlaid. "Mewn gweddi, gwasanaeth ac astudiaeth ynghyd ceisiwn ddangos, er mwyn ein brodyr a'n byd, ehangder y frawdoliaeth a grëir gan Grist." Ceisio cyfeiriadau newydd i feddwl a gweithred yr hen Genhadaeth Hedd, a chyfaddef camgymeriadau lawer, yw amcan hyn o hanes taith y pererin.