Tudalen:Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1.djvu/12

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pigion Englynion fy Ngwlad.

Ab Ithel.

FE wridai y gwladfradwr—ger ei fron :
Gwyrai frig athrodwr:
Lle byddai dystawai 'stŵr,—
Cauai genau'r coeg honwr.

ELIS WYN O WYRFAI.


Absenoldeb y dydd.

E giliodd un byd o'r golwg—i ddwyn
Myrddiynau i'r amlwg:
Daw allan o dywyllwg
Ryw dda a drecha bob drwg.

LEWIS EDWARDS, D.D., Bala.



Adfeilion Castell Dinas Bran.

Englyn, a thelyn, a thant,— a'r gwleddoedd
Arglwyddawl, ddarfuant :
Lle bu bonedd Gwynedd gant,
Adar nos a deyrnasant.

TALIESIN O EIFION.



Adgyfodiad, Yr

Onid oes mewn llindysyn,—a'i feroes,
Wrth farw'n ei blisgyn,
A chodi mor wych wed'yn,
Eglurhad goleu ar hyn?

CALEDFRYN



Adda ac Efa yn Mharadwys.

Adda a'i wraig ddiwair, wen,—foreu byd,
Oe'nt fri balch daearen,
Blodau perffeithgwbl Eden,
Dynoliaeth noeth dan wlith nen.

ERYRON GWYLLT WALIA.