Tudalen:Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1.djvu/16

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ar ddiwrnod oer claddedigaeth Emrys

Emrys! i awen Cymru—ti oeddit
Addurn i'w fawrygu:
Diwedd d'oes wnai dywydd du—
Noeth ogleddwynt wnai'th gladdu!

—Richard Parry (Gwalchmai)


Areithfa, Yr

Ah! y werthfawr Areithfa:—yma saif
Grymus weis Iehofa,
I ddwyn dir newyddion da,
I feirwon, o Galfaria.

—Richard Foulkes Edwards
(Risiart Ddu o Wynedd)



Aregwedd yn hud-ddenu Caradog

Rhodiodd, yn llawn direidi, —o'i ogylch,
Yn ei choegaidd dlysni:
Gweoedd aur ei gwisgoedd hi
A dywynent am dani.

—Rowland Williams (Hwfa Môn).



Arglwydd Mostyn

Meistr nid oes ar Mostyn:—pwy a saif,
Pwy sydd ddaw i'w erbyn?
Daw'r Fama fawr i'r llawr yn llyn
Wedi i Fflint wadu'i phlentyn.

—Thomas Jones (Taliesin o Eifion).



"A'r llewpart a orwedd gyda'r myn"

Gado'i reddf i gyd, ar hyn,—wna y brych
Lewpart brochus, cildyn:
Saif ar y maes hefo'r myn,
A'i hen nodwedd ni edwyn.

—William Roberts (Gwilym Eryri)



Arwydd henaint

Go brin gwna'r felin falu,—ei meini
Mynor gyll o bobtu;
A gwelir hithau'n gwaelu
I falu bwyd fel y bu.

—David Watkin Jones,
(Dafydd Morganwg).



Arwyddion Ieuenctyd a Henaint

Dyna ef, lanc deunaw oed,—iach wron,
Yn chwareu'n ysgafndroed:
Yntau, 'r gwànwr tri'geinoed,
O! mor drwm yw ar ei droed!
—John Owen, (Ioan Powys)