Tudalen:Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1.djvu/18

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Awenydd, Yr

Awenydd a adwaenir—wrth ei gwedd,
Ac wrth y gwaith wnelir:
Nid yw pob peth a blethir
O'r un waed a'r awen wir.

—William Williams (Caledfryn)


Awr hunan

Awr hunaw ddystaw a ddaeth,—awr anghof
Ar rengau bodolaeth,
Awr gysglyd ar drymllyd draeth
Y môr elwir Marwolaeth.

—Robert Ellis (Cynddelw)



Awrlais, Yr

Teclyn sy'n dirwyn d'oriau,—fy enaid,
I fynu'n fynydau;
A phob ticyn sy'n neshau :
I ddiweddiad dy ddyddiau.

—David Jones, Treborth.



Awrlais, Yr 2

Yr Awrlais, ar y pared,—a ddengys
Ddu angau yn dynged;
Ac iaith ddwys ei bregeth dd'wed
Werth fy einioes wrth fyned.

—Pwy yw yr awdwr?




Awrlais Uffern: (cyflwynedig i'r annuwiol)


Mewn haner nos arosi—yn y pwll,—
Gwyneb haul nis gweli:
Ni chlywir llais d' awrlais di
'N taro un mewn trueni!

—Robert Arthur Williams (Berw)



Awyren, Yr [1]


Awyren,—belen glud bali,—drwy chwa
Derch hynt hyd wybreni:
Nwyf wib long, ban nawf heb li',
A llaw dyn yn llyw dani.

—Robert Davies (Bardd Nantglyn)



Bardd, Y


I lenyrch tu ol i anian—ehed;
A chlyw, mewn per syfrdan,
Swn rhyw li'n cusanu'r lan,
A thoni wrtho'i hunan.

—William Nicholson, Llynlleifiaid


  1. Cyn dyfeisio'r awyren adenydd ar ddechrau'r 20C defnyddid y term awyren ar gyfer balwn awyr poeth