Tudalen:Pio Nono.pdf/10

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

olynydd o dan orchudd y tugel, ac nis gellir ethol Pab nes y derbynia ddwy ran o dair o bleidleisiau y cardinaliaid cynulledig. Gellir gweled oddiwrth simnai y gynghorfa pa un a fyddant wedi penderfynu ar Bab yr etholiad cyntaf ai nad ydynt, oblegyd llosgir y papurau etholiadol bob tro nes y ceir y mwyafrif crybwylledig. Wedi gwybod pwy ydyw yr etholedig, plyga y cardinaliaid gwyddfodol i gusanu ei droed, a chymerant lw o ffyddlondeb iddo fel eu tad ysprydol a'u teyrn tymhorol, ac arwisgant ef yn ei urddwisgoedd awdurdodol. Ar yr ugeinfed o Chwefror, wedi eisteddiad byr oddeuddydd, syrthiodd coelbron y coleg gysegredig ar y Cardinal Pecci, y prif weinidog (o dan Pio Nono) ar yr Eglwys Rufeinig Sanctaidd, ac wedi ei etholiad dewisodd gael ei gydnabod o hyn allan dan yr enw Leo XIII. Desgrifir ef fel un o dueddiadau gwleidyddol cymedrol, yn ddyn o ymddangosiad uwchraddol, ac yn llym yn ei ddullwedd, ond yn berffaith foneddig. Ganwyd ef ar yr ail o Fawrth, 1810, o deulu da, ac y mae yn awr yn 68ain oed. Un peth ynglyn a'i ddyrchafiad sydd yn taro yn hyfryd ar glustiau y rhai a ddymunant aflwydd i'w deyrnas ydyw, fod si i'r perwyl fod y llywodraeth Eidalaidd yn myned i roddi mewn grym y gyfraith sydd yn ei galluogi i roddi i lawr fynachdai, a thai crefyddol ereill, ac yn bwriadu drwy yr hawl hono gymeryd meddiant o'r palas Pabaidd, y Vatican, ac y bydd raid i'r. Pab presenol chwilio am breswylfa newydd. A fydd iddynt fyned mor bell a hyn sydd gwestiwn, ond pa un bynag, meiddiwn brophwydo FOD PABYDDIAETH I DDARFOD.

PENILLION AR FARWOLAETH PIO NONO.

Do, bu farw Pio Nono!
Angeu ar ei ddeifiolrawd
Heibio ddaeth, anadlodd arno,
Gwywodd yntau, dyna'i ffawd.

Ie, ffawd yr anffaeladig (!)
Pan ddaeth gwys y Meistr doeth,
Heb nac urdd na gwisg honiedig,
Dygwyd ef i'w ŵydd yn noeth.

Nid oedd pwysau'r goron driphlyg
Yn ei olwg Ef ond gwawn;
Nid oedd urdd yr honiad haerllug
Ddim ond ewyn cwpan lawn.

Brenin y breninoedd hawliai
Gyfrif goruchwyliaeth faith;
Yntau'r anffaeledig (?) blygai,
Rhaid gwynebu ar y gwaith.

Archoffeiriad mawr y Babaeth,
Yn agored fel nyni!!
I oer ddychrynfeydd marwolaeth,
Rhydiau erch y tonog li'.

Tybed fod anffaeledigrwydd
Iddo'n graig uwchlaw don?
Tybed fod ei urddasolrwydd
Iddo'n wialen ac yn ffon?

Na, 'does yn y dyffryn garw
Ddim ond ffydd a'n dwg ni drwy;
Ddim ond cwmni'r Brawd fu farw,
'N drwydded fry i'r "gwledda mwy."

Cynyg ffug sancteiddiol greiriau
I drysorfa fawr y nef,
Lle mae milfil o eneidiau
Yn berlau byw i'w goron Ef.

Gwthio enwau seintiau ffugiol
Ger bron Duw i ddadleu'n cwyn,
Pan nad oes ond Un i eiriol,
'R un ddyoddefodd er ein mwyn.

Gristion tlawd, mae genyt cystal
Hawl i orsedd gras a'r Pab;
Nid oes sant na chrair i'th atal,
Dos at Dduw yn enw'i Fab.

Dos yn enw Crist ei hunan,
Cofia am ei angeu loes,
Esmunir byth mo'r truan
Ddeil yn gadarn wrth y groes.