Tudalen:Pio Nono.pdf/2

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

adau y Pab yn y gwahanol deyrnasoedd yn fechdeyrn, yr archesgobion a'r esgobion yn rhaglawiaid, yr offeiriaid yn weinidogion ceidwadol, ac yn rheolwyr y cyllidau, a'r amrywiol urddau crefyddol yn filwyr sefydlog y Bugail Rhufeinig.

Dan y fath lywodraeth eang, pa syndod ydyw fod gwraidd Pabyddiaeth wedi ymledu dros bedwar ban y byd, ac fod ofergoeledd wedi llochesu yn mynwesau ein cyndadau yn yr oesoedd tywyll!

Er hyny, cafodd y grefydd Babaidd ei dyddiau tywyll o bryd i bryd, ac ysgydwyd hi i'w seiliau gan genadau y Diwygiad Protestanaidd o dro i dro, ond nid un adeg yn fwy na phan gododd Luther, Zuinglius a Chalvin, eu hudgyrn ymosodol yn ei herbyn, nes chwalu haner ei chaerau yn y gorllewin; ac o hyny hyd yn awr y mae gafael y gwreiddiau drwg yn pydru, ac y mae dylanwad upasaidd ei changeuau yn lleihau; a rhyw ddydd gwelir Rhufain anghristaidd yn cwympo, a'i heulunod a'i chreiriau yn cael eu taflu i'r wadd a'r ystlumo. Maddeued y darllenydd i ni am agor ein papur ar fywyd Pio Nono gydag ychydig o hanes amcan Pabyddiaeth, oblegyd gall ddeall yn well y cyfeiriadau a wneir ynddo, yn nglyn a'i weithredoedd i gadw i fyny ei eglwys ddrylliedig.

Yn ol rhestr hanesyddol y Pabyddion o'u holyniaeth apostolaidd, gwelwn mai yr Apostol Pedra ryfygant osod yn gyntaf o'u Pabau. Pa un bynag a fu Pedr yn Rhufain ai peidio, yr hyn sydd amheus, neu pwy bynag a wisgodd yr urddas gyntaf, sicr ydyw hyn, fod pob math o gymeriadau wedi ei arddel, ac na fu o'r cyntaf hyd y diweddaf sef gwrthddrych ein bywgraffiad—un o honynt wedi amcanu cymaint, ac yn mha un y cyfarfyddodd y fath amrywiaeth o gyferddoniau cyneddfol.

Nodweddid Pio Nono gan gyfrwysdra, hunanbarch, penderfyniad, lwfrdra, a rhyfyg, ac yr oedd yn berchen ewyllys a allai reoleiddio yr holl anianau cymysgryw hyn nes eu dwyn yn wasanaethgar iddo, a'u gwneyd yn esgynris ei uchelgais.

Hoffasem gael rhoddi bris—linelliad bywgraffyddol o'r Pabau mwyaf nodedig a lanwodd Gadair Pedr hyd heddyw, ond gan ein bod yn bwriadu rhoddi rhestr gyflawn o'u henwau ar ddiwedd yr erthygl hon, ni wnawn ond cyfeirio y darllenydd at unrhyw wyddoniadur Seisnig, a chaiff ei wala o'u gweithredoedd wedi eu croniclo ynddynt.

GRADDIAD GIOVANNI MARIA MASTAI FERRETTI.

Ganwyd gwrthddrych ein hanes ar y 13eg o Fai, 1792, yn mhentref Sinigaglia, yn agos i Ancona, yn yr Eidal, yn adeg teyrnasiad y Pab Pius VI., ac yr oedd felly pan y bu farw yn ei chweched flwydd a phedwar ugain. Ei enw mabaidd ydoedd Giovanni Maria Mastai Ferretti, a hanai o deulu Eidalaidd urddasol. Nis gellir dywedyd am dano fel y dywedwyd am Glyndwr, fod y nefoedd yn llawn o ffurfiau tanllyd a'r ddaear yn crynu at ei seiliau ar ei enedigaeth, ond gellir dyweyd iddo gynhyrfu nefoedd a daear yn eu fywyd; a'i fod wedi gadael argraff ar y byd na ddiléir mo hono am oesau; ac enw, â pha un y bydd llechres hanesiaeth Ewropaidd wedi ei britho. Nid oedd ynddo yn ei flynyddau boreuol adref ddim yn neillduol i greu dyddordeb na sylw; os nad oedd ei ddull caredig a haelionus, ynghyda'r cywreinrwydd hwnw sydd yn ofynol i enill cyfeillion, yn ei nodweddu.

Yn yr ysgol ni ddangosai allu uwchlaw'r cyffredin, ac os cymerwn adroddiad un o'i gydysgolheigion o berthynas iddo, dywed mai Ferretti ydoedd y dylaf o'r oll. Dywed cydysgolhaig arall am dano, mai efe ydoedd "y celwyddwr penaf yn yr ysgol," ac na arddangosai dalent o gwbl. Pa un bynag a oedd hyn yn wirionedd am dano yn ei fywyd boreuol ai peidio, gallwn ddyweyd na fu iddo ddangos yn y rhan olaf o'i fywyd y cywirdeb diffuant hwnw a weddasai i'w swydd. O berthynas i'w dalent, os nad oedd yn ddysglaer, yr oedd ei ymroddiad penderfynol wedi ei gwneyd yn allu meistrolgar ynddo, a dygodd y byd adnabyddus bron i gydnabod hyny.

Un diwrnod pan yn blentyn syrthiodd i gronfa o ddwfr gerllaw ei gartref, a boddasid ef oni bai fod crwydryn yn myned heibio, yr hwn a'i canfyddodd ac a'í hachubodd. Edrychid ar ei arbediad fel gweithred ragluniaethol, a dywedir nad anghofiodd ei achubydd wedi ei ddyrchafiad i'w orsedd. Rhaid i ni gyfaddef fod ei ymddygiad yn hyn o beth yn ganmoladwy ac yn deilwng o efelychiad, a gresyn nas gallesid dyweyd yr un gwirionedd am y cyfan o'i eiddo. Pan oddeutu deunaw oed yr oedd cymaint o atdyniad iddo yn ngwychder gwisgoedd corphlu y Pab Pius VI., fel y penderfynodd ymuno â hwy, a hwyliodd ei gamrau tua Rhufain i'r dyben o gario ei amcan i ben, a rhestrwyd ef yn un o honynt yn ddiwrthwynebiad. Ymhoffai mewn gwisgo a dangos ei hun, a dywed un bywgraffydd enwog am dano, mai ffopyn coegfalch ydoedd; "ei fod yn mynychu cwmni y milwyr, fod ei lygaid beunydd yn syllu ar eu haddurniadau milwrol. Ymroddodd i ddysgu trin arfau, marchogai lawer,