Tudalen:Pio Nono.pdf/3

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

astudiai fiwsig, a chwareuai y fosbib a'r crwth yn ddeheuig; ei uchelgais y pryd hyn ydoedd bod yn filwr a threulio bywyd gwersyllol. Daeth yn gampwr mewn lliwio pibell ysmodio, gallai yfed potelaid o win ar ei dalcen, a threuliai lawer o'i amser yn chwareu billiards a thennis. Ymwisgai yn gyffredin mewn math o arddull rhwng milwr a gwirfoddolwr, ond eto yn hynod o foneddigaidd. Cob lwyd, gydag arddyrnau duon a choler ddu, cap coch, llodrau gyda rhesau cyfochrog arnynt; coler ei grys yn debyg i un y bardd Oliver Goldsmith gynt, dros ei ysgwyddau, a chadach coch wedi ei rwymo yn debyg i chwarelwr, a'i ddeupen yn chwifio yn y gwynt, blodeuyn yn nhwll botwm ei got, a cigar yn ei safn;" a gorphena gyda dyweyd ei fod hyd yn fod yn ei hen ddyddiau yn methu ymgadw yn llwyr oddiwrth y demtasiwn o wneyd ei hunan yn amlwg drwy arddull ei wisg.

Meddai ar gorph lluniaidd, ac ysgogiadau boneddigaidd, yn nghyda phrydwedd dengar, ac fe allai, o ganlyniad, nad oedd i'w gondemnio gymaint am ei hoffder o addurniadau allanol.

Hoffid ef gan ei gydfilwyr am ei dynerwch, ond nid hir y bu cyn iddo ymadael hwy. Tarawyd ef yn sydyn gan lesmeirglwyf, yr hwn a'i hanalluogodd i ddylyn ei alwedigaeth filwrol, ac wedi ei ryddhad, ac iddo wella i raddau, trodd ei sylw at yr eglwys, a mynychodd ysgoldy crefyddol, lle, yn mhen ychydig o amser wedi iddo fyned drwy y graddau arferol, yr urddwyd ef yn offeiriad, ac anfonwyd ef i addysgu amddifaid tylodion Yspytty Tata Giovanni. Enillodd sel ac yni Ferretti iddo air da a pharch gan bawb o'i gylch yn lled fuan, ac yr oedd yn dechreu creu yn mynwesau ei edmygwyr ddysgwyliadau mawr am dano yn y dyfodol, a dengys ei ddyrchafiad nad oedd eu dysgwyliadau yn ofer. Nid perchen athrylith bob amser sydd yn meddu ar allwedd freiniol gwybodaeth ac anrhydedd, ac nid y "dylaf yn yr ysgol" ar bob adeg ydyw yr isaf yn ngraddfa bywyd. Na, y mae yn dygwydd yn fynych fel arall; gwelir athrylith yn aml yn cardota, a'r un sydd yn perchen penderfyniad ac yni yn llywodraethu,

Dywed Hugh Miller, mewn rhagdraith i un o'i weithiau dyddorus, mai yr unig deilyngdod a hawliai efe iddo ei hunan ydoedd, ei fod yn meddu ar ymroddiad, ac y gallai yr hwn a feddiannai fwy nag ef o hono ei flaenori; ac hefyd, y gall gradd uchel o'r yspryd hwnw fod yn arweinydd i ddadblygiad o alluoedd tu hwnt i athrylith. Credwn ninau mai nid dysg eang nac athrylith ddysglaer a gyfododd y dyn ieuange hwn i'r fath safle, ond ymroddiad llwyr a phenderfyniad diysgog i gwblhau yr hyn a amcanai.

Pan gyhoeddwyd gwerin lywodraeth Chili, yn neheubarth yr America, penodwyd Ferretti i fod yn Brawydd i M. Mugi, Ficer Apostolaidd y Weriniaeth, a danfonwyd ef ymaith i gymeryd mewn llaw ei waith newydd. Drwy ei ddyfalwch daeth i gynar ddeall dirgelion gwleidyddiaeth, ac ysgrifenodd ei olygiadau goleuedig ar byngciau cysylltiol a rheoleiddiad gwleidyddol y llywodraeth Babaidd, yr hyn a fu yn achos o ddwyn iddo fwy o anrhydedd a sylw nag a ddysgwyliasai oddiwrthynt. Yn ystod ei arosiad yn Chili bu newidiad yn y Babaeth drwy farwolaeth Pius VII—coronydd ac esgymunydd Napoleon I.—a chyfodwyd Leo XII. i'w olynu. Ar ddyrchafiad Leo i'r orsedd galwyd Ferretti adref, ac ar ei ddychweliad penodwyd ef ar unwaith i swydd bwysig fel esgob ar dy y Pab, yn nghyda rheolaeth Yspytty St. Michael, yr hon swydd a lanwodd yn anrhydeddus, ac er budd i'r rhai ieuaingc dan ei ofal.

Yr oedd amgylchiadau fel hyn yn ei wthio yn mlaen, ac erbyn hyn yr oedd yntau wedi gosod ei lygaid yn nghyfeiriad Cadair Sant Pedr, ac yn cyflym ymgyrhaedd ati. Treuliai ei fywyd yn dawel a llafurus i olwg ei gyd-ddynion, ond yr oedd ei yspryd uchelgeisiol yn dyheu am uwchafiaeth arnynt. Wedi marw Leo XII. a Pius yr VIII. ei olynydd, pan yn 37 oed cafodd ei ddyrchafu i archoffeiriadaeth Spoletto, ac wedi gwasanaethu yno dair blynedd derbyniodd archesgobaeth Imola yn Romagna, lle y bu yn gweinyddu am rai blynyddau. Tra yma derbyniodd y cymeriad uchaf am ei haelioni a'i garedigrwydd, ac enillodd drwy hyny lywodraeth eang ar galonau ei braidd, yr hyn a fu iddo yn fantais fawr yn y dyfodol.

Yr oedd ei ddyrchafiad yn gyflym ac yn sefydlog, ac yn y flwyddyn 1840 cawn of yn derbyn yr urdd o Gardinal, dan y teitl St. Pedr a Sant Marcellinus. Ychydig o'r teimlad a'i nodweddai y rhan olaf o'i fywyd a ddangoswyd ganddo hyd yn hyn. Ymddengys mai ei brif amcan bron ydoedd ymgeisio at wneyd argraff ddymunol ar bawb a'i cylchynai, hyd nes y meddiannai y llawryf, ac y mae coroniad ei lafur yn profi fod cyfrwysder dan rith baelioni a charedigrwydd wedi palmantu y ffordd i'r bachgen Ferretti hyd at risiau gorsedd Rhufain.