Tudalen:Pio Nono.pdf/4

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dringodd i'r orsedd fel Pab neu Ficer Crist ar ei etholiad yr 16eg o Fehefin, 1810; ac o'r adeg hono hyd ei farwolaeth, ymddengys i olwg y byd mewn ffurfafen uwch, mewn cylch eangach, ac o dan amgylchiadau sydd yn ei gysylltu yn uniongyrchol gyda phenau coronog y ddaear, a chyda phrif ddygwyddiadau gwleidyddol a chrefyddol y byd adnabyddus. Ei deitlau oeddynt: Esgob Rhufain, Ficer Iesu Grist, Olynydd y penaf o'r Apostolion, Prif ddeddfroddwr yr Eglwys Gyffredinol, Patriarch Gorllewin, Prif swyddog yr Eidal, Dinesydd talaeth Rhufain, Penadur tymhorol holl diriogaethau yr Eglwys Rufeinig Sanctaidd; ynghyda llu o deitlau ereill. mor amheus ac mor gyrhaeddfawr a'r uchod, y rhai nad ydyw Cristionogaeth, na'r galluoedd tymhorol ac eithrio un neu ddau yn eu derbyn na'u goddef.

PABAETH PIO NONO.

Wedi ei esgyniad i'r Babaeth bu mawr ddysgwyliad wrtho ac ymddiried ynddo y dangosai ei yspryd rhyddfrydol yn fwy amlwg, ac yr effeithiai fwy o ddaioni yn ei gylch dylanwadol newydd; ond er na chwbl siomwyd hwy yn hyn, eto ni bu o hir barhad, fel y profir yn mhellach. Pan gafodd Pio Nono y llywodraeth i'w ddwylaw, canfu ar unwaith fod cyllid y deyrnas dragywyddol wedi bod mewn dwylaw ofer, fod materion mewnol yr Eglwys fel gwê ddyrysedig, yn llawn annhrefn. Yr oedd swyddogaethau yn y Wladwriaeth a'r Eglwys i'w cael i'r uchaf ei bris, ac yr oedd pob rhan o honynt yn bwdr diwerth, oherwydd anallu y rhai mewn awdurdod, a llwgrwobrwyaeth. Yr oedd miloedd o oreuon ei deyrnas yn garcharwyr, a chyfanfrif ei ddeiliaid yn gwingo dan ormes crairdrethi a marweidd-dra trafnidiaeth. Dechreuodd teyrnasiad Pio drwy iddo ryddhau y caethion, glanhau y llywodraeth oddiwrth lwgrwobrwyaeth, a chaniatâu i'w ddeiliaid Iuddewig ffafrau annysgwyliedig. Dygodd drefn ar gyllid y wlad drwy sefydlu undeb cyllidol rhwng y gwahanol daleithiau, ynghyda diwygiadau eang yn y gwahanol ganghenau swyddogol, fel y tybiodd yr Eidaliaid a'r Rhufeiniaid fod gwawr goleuni rhyddid o'r diwedd wedi tori, ac yn prysur wasgar caddug caethiwed o'u gororau.

Bywiogodd masnach, cynyddodd gwybodaeth, a diflanodd i raddau effaith y llyffetheiriau a fu yn bwyta eu cnawd ac yn eu gorthrymu.

Ni pharhaodd rhyddid ond ychydig dros flwyddyn i daenu ei bendithion yn yr Eidal cyn i rwystr godi, a fu yn foddion i gadw ei lanw am flynyddau ar draeth amheuaeth ac ofn.

Cododd ymrafael rhwng Brenin Sardinia ac Ymerawdwr Awstria, hen noddwr y Babaeth, a chyhoeddwyd rhyfel rhyngddynt. Ar gais y Rhufeiniaid, gwrthododd Pio ymuno â'r Sardiniaid yn erbyn Awstria, yr hyn a barodd newidiad yn y weinyddiaeth, a dewiswyd Cardinal Antonelli yn brifweinidog, fel y cynorthwyai y Pab i rwyfo ei lestr wladol rhwng y creigiau politicaidd cylchynol. Creodd ei wrthodiad deimlad creulon a ffyrnig yn ei erbyn yn mynwesau ei ddeiliaid, ac uchel waeddent am hunanlywodraeth. Pe na buasai i'w lwfrdra ei orchfygu yn y cyfwng hwn, efallai na chawsem y fraint o weled rhwyg mor enfawr yn y deyrnas Babaidd, ond

"Meddwl dyn, Duw a'i terfyn,"

Yr oedd yr adeg wedi gwawrio i Dduw yn ei lid drywanu Pabyddiaeth yn un o'i manau tyneraf, ac y mae'r brathiad mor amlwg, ac yn ei gymeriad mor farwol, fel nas gall ffug anffaeledigrwydd yr holl babau sydd i olynu byth ei wella. Gweithia gwenwyn y llid drwy eu holl wythenau, a cheir gweled y nerth yr ymffrostiant ynddo yn llesmeirio ac yn diffrwytho dan ei effaith, a gwelir ein Harglwydd ni a'i Grist Ef yn teyrnasu, ac ar ei deyrnas ni bydd trangc.

Teimlodd yr Eidaliaid a'r Rhufeiniaid yn yr adeg byr o flwyddyn felusder rhyddid, ac yr oedd yr ysgafndra bywiol a'i meddiannent, wedi iddynt golli hualau caethiwed, mor hyfryd yn ei ganlyniadau fel y penderfynasant roddi eu galluoedd mewn gweithrediad i'w gadw. Pan etholwyd Count neu Iarl Rossi, un o dyraniaid y wlad, yn Weinidog Barnol, codasant mewn gwrthryfel, a bloeddiasant am iawnder, a llais gwlad yn newisiad swyddogion; galwasant ar eu tad, y Pab, i'w hamddiffyn a'u cefnogi, ond nid oedd yspryd ynddo i'w cynorthwyo, na digon o ddewrder i'w gwrthwynebu Pan welsant hyn, rhuthrasant ar Rossi, a llofruddiasant ef yn ystafell y Dirprwywyr yn Rhufain. Casglodd fflam gwrthryfel nerth, a daeth sefyllfa y Pab ei hunan yn beryglus. Amgylchynwyd ei balas gan y gwrthryfelwyr, a hawlient ganddo gyflawniad o'i addunedau iddynt, ond trodd glust fyddar atynt, a'r canlyniad fu, rhuthrasant ar y palas, ac yn y cythrwfl saethwyd un o'i Gardinaliaid, a dygwyd