Tudalen:Pio Nono.pdf/7

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

deyrngarwyr y wlad a fynent ryddhau; ac ni feiddiai y freniniaeth ymgymeryd i gario eu cynllun allan drwy rym arfau, oherwydd fod cyllid y deyrnas yn annigonol i'w cyflenwi a'r awyddau anghenrheidio! i hyny; ac o ganlyniad cadwyd y Pab am beth amser wedi hyn yn siglo ar ei orsedd ddreiniog.

YN COLLFARNU Y MASONIAID.—GARIBALDI,

Nid rhyfedd i'w anesmwythyd yn y rhan yma o'i fywyd achosi iddo daflu ei lysnafedd a'i gabldraith ar bob ffurf o addoliad, a phyngciau athronyddol, ynghyd a chondemniad diamwys o Gyfrinfa y Masoniaid, aelod o'r hon gymdeithas ydoedd yntau—oblegyd gwelai fod ei gydgenedl yn penderfynu meddwl drostynt eu hunain; fod yr Awstriaid yn troi oddiwrtho, a'r Allmaen yn ferw drwyddi am ddiwygiadau; fod Ffraingc ar ben tynu ymaith ei nawdd, ac fod ei goron deir—plyg yntau ar gael ei rhoddi ar ben un o'i ddeiliaid esgymunedig. Er amddiffyn ei hun rhag y canlyniadau uchod, ceisiodd logi llu o Ffrangcod erbyn adeg cymeriad ymaith y milwyr Ffrengaidd rheolaidd a gedwid yn Rhufain gan yr ymerawdwr, ond drwy ystyfnigrwydd milwrol Garibaldi, yr hwn oedd eto ar y maes, cadwyd y milwyr cyntaf yno am amser hwy na'r cytundeb gyda Victor Emmanuel, a thrwy gydweithrediad y milwyr Pabaidd, gorthrechwyd y gwrol a'r teyrngar Garibaldi y drydedd waith cyn sicrhau ei amcan. Bendithiwyd arfau y Ffrangcod llwyddiannus gan y Pab, a chynyddwyd y fyddin amddiffynol i ddwbl y nifer; eto nid oedd llonyddwch iddo.

Wedi ei amgau gan fidogau milwyr estronol, wedi troi ffroenau ei fagnelau at ei bobl, wedi tynu llaw fendithiol dros blu eryr Ffraingc, tybiodd fod ychydig o heddwch ar wawrio; ond o'r tu cefn iddo gwelwn law tynged yn ei wthio, a'i bys yn ei gyfeirio at ei un weithred fawr; at yr hyn yr oedd ei uchelgais wedi osod iddo fel ei nod, ac at y maen ar yr hwn yr ymdorai.

Prif wrthddrych ei fywyd ydoedd cyflawni yr hyn nad amcanodd arall; ac os bu gwiriad erioed i'r ddiareb, "Yr hwn â fyn a orfydd," gwiriwyd hi yn mywyd Pio Nono. Dymunem awgrymu wrth fyned heibio, yn enwedig i'n darllenwyr ieuaingc, fod yr egwyddor hon, er yn llywodraethol ynddo, ac yn ngwyneb ei ryfyg a'i gyfeiliornadau, yn un y dylai pawb fod yn feddiannol arni, sydd a thuedd ynddo i edrych yn mlaen at fodoliant defnyddiol. Fe allai na ddangosodd y Pab fwy o benderfyniad yn ei oes na'r adeg y synodd y byd Cristionogol gyda'i gylchythyr enwog yn Medi 1868, pan wysiodd ynghyd i Rufain Gynghor Cyffredinol, yn gynwysedig o batriarchiaid, esgobion, a blaenoriaid eglwysi heblaw a berthynai i'w eiddo ei hun, gyda'r amcan o'u dwyn i uno mewn cyhoeddiad arbenig o'i anffaeledigrwydd. Gwrthododd Patriarch yr Eglwys Roegaidd ymuno âg ef, na rhoddi ei bresenoldeb yno. Dylynwyd ef gan luoedd ereill, ond er hyny ni bu y cyfartaledd o bresenolion, tra yn ymdrin a'r pwngc, yn llai na 740—mewn ffaith, dygwyd i'r ddinas sanctaidd drwy y cylchlythyr, 6 o dywysogion archesgobol, 50 o gardinaliaid, 10 batriarchiaid, yn agos i 700 o archesgobion ac esgobion, a thua 60 o abbadau a blaenorion urddonau. Yr oedd canfod fath nifer o fawrion eglwysig, hyd yn nod i ddadleu yr athrawiaeth, yn falm pereiddioli deimladau y Pab; ac nid oes amheuaeth nad ydoedd y gefnogaeth a dderbyniodd ganddynt yn gwneyd i fyny i raddau am gywilydd ei alltudiaeth, a phoen colled ei allu tymhorol.

Ni dderbyniod gadarnhadd uniongyrchol i'w ddymuniad; ac ar un pryd edrychai braidd yn dywyll oblegyd y gwrthwynebiad ystyfnig a roddal rhai iddo, ond llwyddodd i enilly Jesuitiaid o'i blaid, a chafodd, drwy eu cynorthwy, fwyafrif mawr; ac ar y 18fed o Orphenaf, 1869, penderfynwyd gan y Cynghor ar y ffurf ganlynol o hysbysiad, yn cynwys corphoriad o'u dysbwylliant ar yr athrawiaeth newydd o

ANFFAELEDIGRWYDD:

"Yr ydym ni, sydd yn cadarn ymlynu wrth y traddodiad a drosglwyddwyd i ni er dechreuad y Grefydd Gristionogol, er gogoniant Duw ein Iachawdwr, er dyrchafiad y grefydd hono, ac er Iachawdwriaeth Cristionogion, gydag arddeliad y Cynghor Cysegredig, yn dysgu yr Athrawiaeth fel ei datguddiwyd gan Dduw—Fod Pab Rhufain, pan yn llefaru yn swyddogol; hyny yw, pan yn nghyflawniad o'i ddyledswyddau bugeiliol, fel dysgawdwr yr holl Gristionogion; trwy rinwedd aruchel ei awdurdod apostolaidd, yn egluro yr athrawiaeth o berthynas i ffydd neu foesau sydd yn perthynu i'r Eglwys gyffredinol, ei fod, drwy gynorthwy Dwyfol, addawedig iddo yn yr Apostol Pedr, yn perchen Anffaeledigrwydd, gyda pha un yr ewyllysiodd ein Iachawdwr Dwyfol ddonio ei eglwys pan yn egluro ffydd a moesau; ac o ganlyniad fod egluriadau y Pab Rhufeinaidd ynddynt eu hunain, yr Eglwys, yn