Tudalen:Plant y Goedwig.djvu/14

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

O un o'r tai daeth swn geiriau dig, yna ergydion ac ysgrechain, a rhedodd geneth fechan yn wyllt drwy'r bwlch yn y mur. Yr oedd dagrau ar ei hwyneb, ac ar ei phen cariai lestr mawr pridd. Magi, caethes fechan Shimwango, oedd hi. Ai i lawr i'r afon i gyrchu dwr i Mwenya, gwraig Shimwango. Rhedai ar hyd y llwybr bychan troellog, ei chorff bychan main, tywyll, heb ddillad arno ond gwregys bychan glain a ffedog fechan yn hongian wrtho. Yr oedd ganddi hefyd dorchau gwifr ar ei migyrnau a'i gardd— yrnau a seiniai y rhai hyn pan redai. Weithiau ai bron o'r golwg yn y borfa dàl a dyfai ar bob ochr i'r llwybr cul.

Yr oedd yn dywyll iawn yn ymyl y nant, gan fod y coed mawr yn cau allan oleu'r haul. Crynai Magi gan ofn oherwydd clywsai lawer gwaith fod ysbrydion drwg ger y fan honno. Llanwodd ei llestr yn ddioed, cododd ef ar ei phen a dechreuodd ddringo'r llethr yn ol i'r pentref. Da oedd ganddi gael dod yn ddiogel o ymyl yr afon.

Ddeuddydd cyn hynny aethai gwraig yno yn gynnar yn y bore a llarpiwyd hi gan grocodil. Yr oedd y llwybr yn serth iawn a thraed bychain Magi wedi blino. Drwy'r dydd bu allan yn yr ardd gyda Mwenya yn chwynnu, ac yn cario Musonda, baban bychan tew ei meistres, ar ei chefn yr holl amser. Yr oedd Magi yn hoff o hono, ond yr oedd yn drwm iawn, a gwnai