Tudalen:Plant y Goedwig.djvu/15

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iddi flino yn enbyd. Yn wir yr oedd mor flinedig pan ddaethai o'r ardd nes yr aeth i ymguddio'r tu ol i'r ty, ac yno yn y cysgod cysgodd yn drwm, ac yr oedd Mwenya yn ddig iawn pan welodd y llestr dwr yn wag. Curo Magi a wnaeth i'w deffro. Dyna'r crio a glywsid o'r pentref.

Pan gyrhaeddodd Magi ben y rhiw trodd yn ol i gael golwg ar Lyn Tanganyika dros frig y coed. Disgleiriai haul y gorllewin arni nes ei gwneud fel mor o dân. Syllodd Magi arni yn hir. Yr oedd mor fawr ac mor ddieithr. Gwyddai fod y tuhwnt i'r ehangder disglair llonydd yna bentrefi bychain ereill: yn un o honynt y bu hi yn byw pan oedd yn faban. Ryw ddydd yn y pentref hwnnw daethai dynion gwynion dieithr i'r lle a chanddynt offerynnau rhyfedd oedd yn poeri tan ac yn lladd pobl. Daliasent ddynion y pentref mewn cadwynau a dygasent hwy ymaith. Tad Magi oedd un o'r dynion hynny. Gwnaed yr un modd â'r gwragedd hefyd, ac hyd yn oed â'r bechgyn a'r genethod.

Ni chofiai Magi lawer, ond dywedasai ei meistr Shimwango wrthi fod y dynion dieithr wedi ei thynnu hi oddiar gefn ei mam, wedi gyrru'r holl bobl o'u cartrefi, a mynd a hwy i rywle pell iawn i'w gwerthu yn gaethion. Digwyddodd rhywun fynd drwy'r pentref gwag drannoeth a chlywodd blentyn bach yn crio. Cariodd hi i bentref arall lle'r arhosai