Tudalen:Plant y Goedwig.djvu/17

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD II.

WEDI UGAIN MLYNEDD.

YR oedd pob dydd yr un fath i Magi, a phob blwyddyn hefyd, hyd flwyddyn ei phriodas. Wedi hynny aeth ymhell o bentref Shimwango, nid yn gaethes bellach ond yn wraig rydd. Mewn pentref rai milltiroedd o'r Llyn Fawr gwnaeth ei gwr a hithau eu cartref. Yr oedd yn bentref mawr ar ochr bryn ac afon droellog loew yn llifo gerllaw iddo. Enw'r pentref a'r afon oedd Mbereshi.

Safai cartref Magi ar lethr,—ty bychan tlws, nid un crwn fel y lleill, ond un hirgul. Yr oedd drws pren iddo a ffenestri bychain, ac yr oedd ynddo ddwy ystafell. Ei phriod Sumbukeni a'i gwnaethai. Dyn call a da oedd efe, a gwyddai lawer o bethau. Daeth Magi allan drwy'r drws â llestr dwr ar ei phen eto, ond mor wahanol oedd i'r eneth fach honno a syllai drwy ei dagrau ar y Llyn Fawr ugain mlynedd yn ol! Yr oedd yn dal a syth a chanddi wisg o liwiau prydferth yn cyrraedd o'i hysgwyddau i'w thraed. Yr oedd torchau gwifr o hyd ar ei breichiau a'i migyrnau ac ereill harddach o ifori, a gleiniau lawer am ei gwddf. Safai wrth y drws ag un llaw dros ei llygaid, fel pe bai yn edrych am rywun. O'i blaen,