Tudalen:Plant y Goedwig.djvu/20

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd yn ymyl eu ty. Yr oedd y drws yn agored i dderbyn y tair buwch a brynasai Sumbukeni. Tynnwyd ei sylw gan ddisgleirdeb yn y pellter. Draw ar y gorwel, tuhwnt i'r goedwig fawr, yr oedd llyn arall fel mor o dân yng ngoleu machlud haul. Aeth meddwl Magi yn ol i'r gorffennol; gwelodd eto mewn dychymig lyn Tanganyika a hithau yn gaethes fechan ofnus yn y pentref pell. Cofiodd ddyfodiad y dyn gwyn a ddygasai'r newydd da am yr Iesu, ac a'i prynasai hi oddiwrth Shimwango. Cofiodd y daith hir i Mbereshi, a'r ystorïau rhyfedd a adroddai'r dyn gwyn am yr Iesu. Un mwyn a da oedd ef. Gallai yrru ymaith bob ysbryd drwg, yr oedd yn caru dynion duon yn ogystal a dynion gwynion, ac yr oedd hi yn un o'i ganlynwyr. Yr oedd Sumbukeni ei phriod yn athraw yn ysgol y pentref ac yn ddiacon yn yr eglwys. Tu ol i'w ty hwy yr oedd y capel ar ben y bryn, yng ngolwg y pentref a'r gwastadedd a'r goedwig, ac yn ei ymyl yr oedd tai'r cenhadon.

"Mayo!" (Mami.) Safai Kabwe o'i blaen a'i dwylaw bychain ymhleth.

Pa le y buoch chwi c'yd, Kabwe? Mae'r haul ar fynd i lawr, a ninnau heb ddim dwr. Ewch ar unwaith i'r afon. Bydd yn dda gen i pan ddaw'r Fama (y fenyw wen) yma i'ch dysgu chwi, ferched. Yna cewch fynd i'r ysgol fel y bechgyn, ac yna ni