Tudalen:Plant y Goedwig.djvu/21

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fydd llawer o chwarae wrth yr afon. 'Nawr rhedwch a gofalwch beidio â thorri'r llestr."

Aeth Magi i'r ty, a Kabwe â'r llestr ar ei phen i lawr at yr afon. Ni chredai hi na'i ffrindiau y deuai'r Fama. Dywedyd hynny a wnai y mamau er mwyn peri ofn arnynt hwy'r merched.

Yr oedd merched bychain ereill ar eu ffordd i lawr tua'r afon gyda'u llestri dwr, Chiluba a Chungu a Neli a Semba. Galwodd Kabwe arnynt i'w haros hi. Cyn iddi eu cyrraedd gwaeddodd allan:

"Mae mayo'n dweyd fod Mama'n dod i'n cau ni i fyny mewn ysgol er mwyn dysgu pethau i ni fel y gwneir i'r bechgyn."

Chwerthin yn uchel a wnaeth y lleill a rhedodd y pump nerth eu traed tua'r afon. Yn fuan yr oedd pum llestr llawn ar bump o bennau cyrliog yn mynd yn ol tua'r pentref.

"Ha! Ha! ferched. Daw'r Fama yn fuan i'ch curo chwi a'ch newynu a'ch rheibio, Ha! Ha!"

Celwydd yw hynyna! 'Does dim un Fama'n dod." Ond para i'w poeni a wnai'r llanciau direidus a eisteddai ar gangau uchel coeden dal, a dechreuasant daflu atynt gawod o gerrig ffrwythau a fwytaent. Ni feddai'r merched un arf ond geiriau, a thaflasant yn ol atynt gawod o'r geiriau casaf a wyddent. Pan oedd yr ymrafael boethaf a'r iaith waethaf daeth y cenhadwr a'i wraig heibio. Ymguddiodd y bechgyn