Tudalen:Plant y Goedwig.djvu/22

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn nail y pren ac edrychodd y merched tua'r llawr gan gywilydd, ond cyfarchasant y cenhadon drwy guro. eu dwylaw a dweyd, "Mwapoleni Mukwai" (sut yr ych chwi heddyw?). "Mwapoleni," atebai'r wraig. "Yr ydym yn mynd i adeiladu ty i'r athrawes yn fuan ac ysgol i chwithau ferched. Mae eisieu eich dysgu sut i siarad â'ch gilydd."

Aethant yn eu blaen ac aeth y merched tua'u cartrefi yn ddistawach na chynt, a chwerthin gwawdus y bechgyn yn eu dilyn. Wrth ymadael dywedodd Chungu: "Nid af i ddim i ysgol y Fama."

"Na finnau," ebe Kabwe, a dywedodd y tair ereill yr un modd.

Aeth Kabwe â'i llestr dwr i'r ty ac aeth a'i brawd bychan Henri allan ar y feranda o flaen y ty. Yr oedd ei thad yno a rhai o'i gyfeillion, ac am y Fama y siaradent hwythau.

"Bydd yn dda i'r merched yna gael rhywun i'w dysgu," ebe Kawandami; "bydd yn dda gen i weld Neli yn yr ysgol. Mae'n ddigon gwyllt ac anufudd awr. Hoffwn ei gweld yn tyfu i fod yn fenyw dda."

"Bydd Kabwe yn un o'r rhai cyntaf i gael mynd yno," ebe Sumbukeni.

Llanwodd llygaid Kabwe o ddagrau a chrynodd ei chorff bychan. Clywsai hi famgu Chipepa yn dweyd wrth fam Lisi fel hyn: "Byddwch yn ffol iawn os gyrrwch eich merch fach i'r ysgol at y