Tudalen:Plant y Goedwig.djvu/23

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Fama. Bydd yn sicr o gael ei rheibio ac efallai na welwch hi drachefn. Ni chaiff Chipepa fynd. Peth arall, bydd y Fama'n dysgu arferion newydd i'r merched ac yn gwneud iddynt anghofio ein harferion ni. Na, 'does dim eisieu yr un Fama yma. Rhaid i'n merched ni fyw fel mae eu mamau wedi byw."

Siaradai gwragedd ereill yr un modd ac yr oedd calon Kabwe yn llawn ofn. Rhwymodd ei brawd bach am ei chefn ac aeth i gefn y ty lle'r oedd ei mam yn paratoi swper.

"Mayo, 'dwyf i ddim am fynd i'r ysgol," ebe hi.

"Pam?" gofynnai Magi gan edrych arni.

"Mae pawb yn dweyd y bydd y Fama yn sicr o'n rheibio ni a dysgu arferion newydd i ni."

"Ffolineb yw hynyna, 'merch i. Oni wyddoch chwi eto na all neb reibio? Pobl anwybodus sydd yn son am beth felly. Ni wyddant hwy am yr Athraw Iesu. Mae efe yn dyner a da. Ei gennad ef yw y Fama. Mae ei gariad ef yn ei chalon a hi a'ch dysg chwi i fod yn blant iddo. Mae'n wir y dysg hi arferion newydd i chwi,—dysg chwi i fod yn garedig, yn lan eich iaith, ac yn eirwir. Ffyrdd yr athraw Iesu yw'r rhai yna. Bydd hi yn eich caru ac yn ofalus ohonoch. 'Nawr rhoddwch y matiau i lawr a dywedwch wrth eich tad a'r dynion ereill bod swper yn barod."