Tudalen:Plant y Goedwig.djvu/27

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Yr ydym yn awr yn mynd heibio i Brighton," meddai dyn tal a bwysai ar ganllaw'r dec gan edrych drwy syll-wydrau.

Drwy'r dydd dangosid gwahanol leoedd, a phan oedd yr haul ar fynd i lawr torrodd ei belydrau disglair drwy'r cymylau nes goreuro'r tir a'r mor a'r awyr. Ymddangosai'r tir erbyn hyn yn agos; gellid gweld y borfa ar ben y creigiau gwynion ac weithiau dwrr o dai bychain a nennau cochion iddynt. "Yr ydym yn ymyl Ynys Wyth yn awr," meddai'r dyn tal â'r gwydrau. Wedi clywed ei eiriau cododd un o'r teithwyr yn sydyn o'i chadair. Ynys Wyth! Dyna adgofion oedd ynglyn â'r enw! Ni theimlai yn hollol gysurus; rhoddai symudiad cyflym y llong i fyny ac i lawr dipyn o benfeddwdod iddi, ac fel llawer o'r teithwyr ereill eistedd yn dawel yn ei chadair a wnaethai drwy'r dydd. Ond nid allai basio Ynys Wyth heb gael un golwg eto arni. Cododd gan gau ei chôt yn dyn am dani, a cherddodd yn sigledig i le cysgodol ar y dec, lle y gallai fod wrthi ei hun. Yno o'i blaen yr oedd yr ynys fechan, yn werdd a phrydferth dan dywyniadau haul y gwanwyn. Mor hardd yr edrychai! Daeth adgofion yn llu i galon yr un a safai yno'i hunan ar y dec! Cofiai'r dyddiau pell pan oedd hi yn yr ysgol yn un o drefi bychain yr Ynys. Dyddiau difyr oeddent! Cofiai'r amser y caent eu gwersi allan yn yr ardd gysgodol, a'r mor glas