Tudalen:Plant y Goedwig.djvu/28

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn gwenu arnynt drwy'r coed. Gwenodd wrth gofio un dydd yn arbennig. Gwers ar Affrica a gawsent y diwrnod hwnnw—ar lynnoedd Affrica, a chawsai hi ei cheryddu am beidio a sylwi. A dyma hithau bellach ar ei ffordd i Affrica. Cai weld cyn hir rai o'r llynnoedd y bu dysgu am danynt yn waith mor flinderus iddi ar y prynhawn tesog hwnnw ymhell yn ol.

Ie, Mair oedd hon! Cyn hir wedi'r helynt hwnnw ynghylch Llyn Tanganyika, clywodd Mair genhadwr yn areithio yn y capel ryw ddydd Sul. Siaradai am blant rhyw wlad bell, plant heb ysgolion ar eu cyfer, a theimlai Mair nad oeddent mor hapus â hi, ac yn nyfnder ei chalon gwyddai paham. Y noson honno, wrth ddweyd ei phader, methai â chael geiriau i fynegu ei dymuniad. Daethai meddwl newydd, dymuniad newydd, i'w bywyd. Gwnai hwn hi yn hapus iawn ac yn ofnus hefyd. O'r diwedd, sibrydodd yn isel, "Mi a af, Iesu da, pan fyddaf yn fawr, os mynni Di!" Dyna'r cyfan, ni ddywedodd ragor am dano, a thrwy'r dyddiau a'r misoedd a'r blynyddoedd yr oedd y dymuniad ynghudd oddiwrth bawb ond yr Un y rhoddasai hi ei haddewid iddo. Ar ol dyddiau'r ysgol a hithau yn awr mewn oed, ni chwenychai ddim ond cael mynd lle y danfonid hi gan yr Iesu, i gario ei faner Ef.

Hyn a lanwai ei meddwl wrth syllu ar yr ynys