Tudalen:Plant y Goedwig.djvu/29

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn cilio o'i golwg yn y pellter. Yr oedd Ef yn ei danfon i Affrica. O'i hol yr oedd bywyd ei chartref a phawb a phopeth oedd yn annwyl ganddi. O'i blaen yr oedd gwlad ddieithr, pobl ddieithr, teyrnas i'w hennill i'r Iesu. Buasai arni ofn onibai iddi gofio ei fod Ef yn mynd yno o'i blaen. Ni byddai yn unig, byddai'r wlad ddieithr yn gartref iddi am y byddai Efe yno.

Daeth y nos drachefn a'i myrdd o ser. Gwasgarwyd y cymylau a daeth y lloer i'r golwg gan daflu ei goleu arian ar y lli, ac aeth y llong fawr ymlaen yn dawel ar ei thaith. Credai Mair bod yr haf wedi dod yn sydyn i'w cwrdd. Yn Lloegr, chwythai gwyntoedd Mawrth a disgynnai'r glaw oer, ond wedi bod ar y mor am dridiau, ciliodd y cymylau, yr oedd y mor yn las ac esmwyth a'r awelon yn falmaidd a thyner.

Un bore yr oedd golwg gyffrous iawn ar y dyn tal. Rhoisai fenthyg ei wydrau i un o'r teithwyr ereill, a cheisiai ddangos rhywbeth iddi.

"Dacw fe, y fan draw ar y gorwel! Cwmwl? Nage, tir yw,—Ynysoedd Madeira. Byddwn yno ymhen ychydig oriau."

Erbyn hyn syllai pawb, ac yn fuan iawn gwelid y tir yn eglur, creigiau uchel yn ymgodi'n serth o'r mor. Gorchuddid y bryniau â blodau o bob lliw, a deuai arogl lavender gyda'r awel oddiyno. Pan droai'r llong i mewn i'r bau, yr oedd yr olygfa o'r