Tudalen:Plant y Goedwig.djvu/30

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mor yn hardd dros ben; tai bychain gwynion ar lethrau serth y bryniau a gwinwydd yn tyfu o'u cylch; yma ac acw clochdy eglwys yn cyfeirio i'r nef; blodau ym mhobman; awyr las ddigwmwl uwchben; ac o gylch y cwbl, mor glasach hyd yn oed na'r awyr, a thonnau bychain yn torri'n wynion ar y tywod euraid. Angorwyd ymhell o'r traeth, a daeth tyrfa o gychod bychain i gyrchu'r teithwyr i dir. Chwaraeai degau o fechgyn bychain melynddu yn y dwr o gylch y llong, eu cyrff tywyll, llathraidd, yn disgleirio yngoleu'r haul. Dringai dynion i'r dec gan gynnig ilu o bethau diddorol ar werth, a phawb yn fawr eu swn a'u bloeddio a'u chwerthin.

Arhosodd Mair ar yr Ynys hyd ymhell yn y prynhawn. Erbyn chwech o'r gloch yr oedd pawb eto ar y bwrdd, dirwynwyd yr angor fawr i fyny a throdd y llong i'r mor drachefn. Ar ol cinio'r noson honno, aeth pawb i fyny i'r dec i gael yr olwg olaf ar Madeira. Ymddangosai'n harddach hyd yn oed nag yn y bore. Cyn hir ni welent ddim ond cysgod du rhyngddynt a'r gorwel a myrdd o oleuadau siriol fel ser yn dawnsio arno.

Am bedwar diwrnod ar ddeg wedyn ni welwyd tir o gwbl; dim ond heidiau o bysgod yn hedfan a'r morloi mawrion yn neidio a dynnai sylw'r teithwyr. Yn awr yr oedd diwedd y fordaith yn y golwg, gwelid tir Affrica fel cwmwl ar y gorwel. Cyn hir byddai'r