Tudalen:Plant y Goedwig.djvu/34

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Erbyn bore drannoeth rhedai'r tren drwy wlad agored, a bryniau a chopaau gwastad iddynt yn ymgodi o'r ddaear yma a thraw. Hwn oedd y veldt. Yr oedd hi'n gyfarwydd ag enwau rhai o'r gorsafoedd. Pan welodd Kimberley, teimlai fel pe bai wedi cwrdd a hen ffrind dyddiau'r ysgol. Ar y trydydd dydd arhosodd y tren. Nid dydd oedd yn wir, ond canol Yma disgynnodd Mair a'i chwmni. Tynnwyd eu cistiau allan ac aeth y tren ymlaen hebddynt. Pan ddaeth goleu dydd gwelodd Mair enw'r lle mewn Saesneg:—

London Missionary Society.
Tiger Kloof Native Institution.

Arosasant yma am ychydig ddyddiau yn mwynhau cwmni'r cenhadon oedd yn byw yno, ac yn gweld y gwaith a wneid yn yr ysgol a gedwid yn y lle. Yr oedd yr ysgol yn un o ddiddordeb mawr i Mair, gan y bwriadai hi agor ysgol i ferched yng ngwlad y coedwigoedd.

Unwaith eto yr oeddent yn y tren, yn cyflymu tua'r gogledd,—bob dydd yn mynd gannoedd o filltiroedd yn nes i ganol y Cyfandir Mawr. Aethant heibio i Mafeking ac yna Buluwayo, yr olaf o'r trefi mawr, a'r dydd dilynol gwelodd Mair un o olygfeydd rhyfeddaf y byd. Er y bore bach yr oedd llawer wedi bod yn cerdded yn ol a blaen, a safai llawer ar y llwyfan